Ysgoloriaethau PhD newydd ar gael yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
12 Gorffennaf 2018
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi bod dwy ysgoloriaeth PhD ar gael i gefnogi ei rhaglenni.
Bydd yr ysgoloriaethau newydd yn ariannu ffioedd llawn dau fyfyriwr DU/UE am dair blynedd, yn amodol ar gynnydd boddhaol. Byddent hefyd yn cynnwys tâl blynyddol ar gyfradd ôl-raddedig UKRI (£14,777 ar hyn o bryd).
Mae'r ysgoloriaethau newydd ar gyfer naill ai rhaglenni’r Gyfraith neu Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, ond y gobaith yw y bydd yr Ysgol yn gallu dyrannu un ysgoloriaeth i bob disgyblaeth, ond bydd hyn yn dibynnu ar safon y ceisiadau a dderbynnir.
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn ymgymryd â PhD mewn unrhyw faes o'r Gyfraith neu Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yr Ysgol sy'n gallu cynnig goruchwyliaeth. Mae goruchwyliaeth ar bynciau'r Gyfraith ar hyn o bryd yn cynnwys cyfraith hawliau dynol, cyfraith iechyd meddwl, theori gyfreithiol ffeministaidd a chyfraith teulu. Mae pynciau goruchwyliol Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnwys Gwleidyddiaeth Fyd-eang Hanfodol, Rhywedd a Chysylltiadau Rhyngwladol, Technolegau Digidol, Llywodraethu'r Rhyngrwyd a Seibr-ddiogelwch a Datblygu ac Ôl Wladychiaeth.
Gellir gweld rhestr lawn o ardaloedd o oruchwyliaeth ar dudalennau Chwiliwr Cyrsiau'r Brifysgol:
Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau eu rhaglenni ar 1 Hydref 2018 er efallai y bydd modd dechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd.
Meini Prawf Cymhwysedd
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ysgoloriaeth, rhaid i'r ymgeisydd:
- Fodloni'r gofynion mynediad arferol ar gyfer ymgymryd â PhD yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd; a
- Meddu ar 'gynnig i astudio' naill ai rhaglen y Gyfraith neu Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (naill ai ar sail cynnig ddiamod neu amodol).
Dyma’r meini prawf gofynnol ar gyfer cael eich derbyn:
- Dylai ymgeiswyr fod â gradd Anrhydedd o leiaf 2:1 neu gymhwyster tramor cyfwerth mewn pwnc perthnasol; ac
- Ar gyfer y rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, rhaid iddynt gael sgôr o leiaf 7.0 yn IELTS (gan gynnwys o leiaf 6.5 yn yr elfen ysgrifennu).
Sut i wneud cais: Ymgeiswyr newydd
Rhaid i ymgeiswyr newydd wneud cais drwy system ymgeisio ar-lein y Brifysgol erbyn hanner nos ddydd Gwener 27 Gorffennaf 2018
Noder bod rhaid llenwi'r ffurflen gais ar-lein yn llawn erbyn y dyddiad cau er mwyn i'ch cais gael ei ystyried. Cofiwch sicrhau eich bod wedi lanlwytho: cynnig ymchwil llawn; copïau o'r tystysgrifau a thrawsgrifiadau perthnasol a datganiad personol manwl, sy'n rhoi datganiad cryf o'ch diddordeb ymchwil, eich paratoadau a dealltwriaeth o gyd-destun yr ymchwil ac arwyddocâd y prosiect arfaethedig. Os oes gennych brofiad tu hwnt i addysg yr hoffech chi ei ystyried, awgrymir i chi uwchlwytho CV hefyd.
Sut i wneud cais: Ymgeiswyr presennol/deiliaid y cynnig
Dylai ymgeiswyr presennol a deiliaid y cynnig gysylltu â thîm Ymchwil Ôl-raddedig erbyn hanner nos ddydd Gwener 27 Gorffennaf i fynegi diddordeb.
Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu erbyn diwedd mis Awst fan bellaf.