Ewch i’r prif gynnwys

Arafu datblygiad gyriant genynnau

10 Gorffennaf 2018

Genes

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi creu switsh biolegol a allai reoleiddio technoleg gyriant genynnau.

Gall y switsh, asid amino rhad a diwenwyn o'r enw BOC, drosglwyddo proteinau 'ymlaen' ac i 'ffwrdd' mewn unrhyw rywogaeth, a galli fod o gymorth mewn llu o feysydd, o reoli pla i feddygaeth adfywiol.

Mae'r tîm o ymchwilwyr, sydd hefyd yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerfaddon, yn credu y gallai'r cam fod yn arbennig o ddefnyddiol mewn technoleg ddatblygol a elwir yn yriant genynnau.

Mae gyriant genynnau yn ddulliau sy’n gallu newid côd genetig rhywogaeth yn y fath fodd fel ei fod yn sicrhau bod pob epil mewn rhywogaethau sy'n atgynhyrchu yn etifeddu segment genetig penodol. Byddai'r dechnoleg hon yn diystyru'r siawns 50% o'r epil yn etifeddu nodwedd arbennig.

Gall nodweddion a roddir gan yriant genynnau ledaenu'n gyflym drwy'r boblogaeth, p’un a ydynt yn fanteisiol neu beidio.

Er enghraifft, gallent wneud da byw yn fwy gwydn i glefyd, gwella gwerth maethol cnydau neu ddileu'r mosgitos sydd yn trosglwyddo clefydau heintus megis malaria.

Fodd bynnag, bydd angen bodloni sawl her cyn y gellir awdurdodi gyriant genynnau yn ôl pob tebyg.  Ar ôl iddynt ddechrau, maent yn anodd neu'n amhosibl i'w rheoli a gallent weithio dros ardaloedd ehangach nag a ddymunir e.e. crwydro ar draws ffiniau rhyngwladol. Efallai y byddent yn achosi canlyniadau amgylcheddol anfwriadol neu'n cynyddu ymwrthedd.

Mae ymchwilwyr yn credu y gallai BOC, asid amino anffisiolegol, newid proses gyriant genynnau yn llwyr. Bydd yn gwneud yn siŵr mai genynnau’r organeb sydd wedi cael yr asid amino yw’r unig rai fydd yn bendant yn cael eu trosglwyddo ymlaen. Heb BOC, caiff y gyriant genynnau ei ddiffodd, a bydd pob epil yn amodol ar gyfreithiau etifeddiaeth naturiol, gan ddychwelyd poblogaethau at ei ddetholiad mwy amrywiol o nodweddion posibl.

Yn eu hastudiaeth, sydd wedi'i chyhoeddi yng nghyfnodolyn Scientific Reports, dangosodd y tîm y dechnoleg yn llwyddiannus drwy ddefnyddio asid amino BOC i droi protein penodol 'ymlaen' ac 'i ffwrdd' yn ystod cyfnod cynnar embryonau llygod.

Dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth Dr Yu-Hsuan Tsai o'r Ysgol Cemeg: "Er bod BOC yn darparu dull deniadol ac addawol o reoli camau golygu, rydym bellach yn gweithio i fynd i'r afael â'r heriau sy'n weddill a datrys rhai o’r problemau yn y system."

Dywedodd yr Athro Tony Perry o Brifysgol Caerfaddon: "Mae'r switsh hwn yn ffordd o reoli mynegiant unrhyw brotein drwy ehangu'r côd genetig.

Yr hyn sy'n gwneud ein gwaith yn wahanol yw'r posibilrwydd y gallai hwn fod yn gam sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ar draws pellteroedd mawr, gan nad oes unrhyw ddull blaenorol mewn gwirionedd yn galluogi hynny. Er enghraifft, gallwch ddychmygu rheoli gweithgarwch gyriant genynnau mewn buchesau o dda byw drwy ychwanegu neu ddileu BOC o fwydydd anifeiliaid fel sy'n ofynnol.

Mae gan faes golygu genynnau botensial enfawr ar draws y gwyddorau biolegol, o fiofeddygaeth i ddiogelwch bwyd, pryfed, planhigion ac anifeiliaid."

Ariannwyd yr astudiaeth gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) ac Ymddiriedolaeth Wellcome.

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.