Sgiliau ar gyfer bywyd
10 Gorffennaf 2018
Mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn prosiect cyffrous newydd sy'n cynnig cyfleoedd cyflogaeth a dysgu i fenywod Du a lleiafrifol ethnig (BME) yng Nghymru.
Fel rhan o leoliad gwaith sydd ar waith, mae Arafa Ali, ffoadur o Sudan, wedi dysgu beth sydd ei angen i ddod yn aelod o Staff y Gwasanaethau Proffesiynol yn Ysgol Busnes Caerdydd drwy brosiect Sgiliau ar gyfer Bywyd.
Daeth Arafa i'r DU wyth mlynedd yn ôl gyda'i theulu, ac mae wedi troi ei llaw at wasanaethau cwsmeriaid, gweinyddu a chymorth cyfleusterau dros y tri mis diwethaf, gan gysgodi Dirprwy Reolwr Ysgol i geisio gwella ei chyfleoedd gwaith.
Yn ogystal â chynorthwyo gyda rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd, mae hefyd wedi cael cyfle i dreulio amser gydag adrannau eraill, gan gynnwys y dderbynfa, Tîm y Diwrnod Agored a'r ganolfan Israddedigion.
Dywedodd Arafa: “Rwyf i bob amser wedi dymuno mynd i'r brifysgol, ac un diwrnod rwy'n gobeithio astudio nyrsio. Ond mae'r cyfle i gael profiad gwaith mewn lle fel Prifysgol Caerdydd wedi fy ngwneud i mor hapus.”
Ychwanegodd Julia McCarthy, Dirprwy Reolwr yr Ysgol yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Bu'n bleser mentora Arafa ar ei lleoliad gwaith Sgiliau ar gyfer Bywyd...”
Dan arweiniad Oxfam Cymru a Chanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon, mae Sgiliau ar gyfer Bywyd yn cynorthwyo menywod BME i ddysgu sgiliau, cael profiad a magu'r hyder sydd ei angen i ddod o hyd i waith boddhaol ac adeiladu bywyd yn rhydd rhag tlodi.
Dywedodd Arafa, sydd â phum merch: naw, wyth, pump oed a gefeilliaid sy'n 17 mis: "Pan rwy'n casglu fy mhlant o'r ysgol, rwy'n dweud wrth fy ffrindiau 'Rwy'n gweithio yn y Brifysgol' ac yn teimlo mor falch. Rwy'n dweud wrthyn nhw pa mor dda mae wedi bod ar gyfer datblygu sgiliau gwaith gwahanol, a hefyd cynyddu fy hyder.
“Ers dod i'r DU, prin yw'r cyfleoedd rydyn ni wedi'u cael i weithio, sydd wedi bod yn anodd iawn i fy nheulu...”
Mae lleoliad gwaith Arafa yn un enghraifft o gyfres o fentrau cenhadaeth ddinesig a ddatblygwyd ar draws y Brifysgol i gynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches i adeiladu bywyd newydd yng Nghymru.
Meddai’r Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae lleoliad gwaith rhagorol Arafa'n amlygu ymrwymiad y Brifysgol i greu cyfleoedd i gymunedau Cymru a'r byd...”
Esbonia Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru, sut mae'r lleoliadau gwaith Sgiliau ar gyfer Bywyd yn cyd-fynd â nodau ehangach y sefydliad wrth ddatblygu gwaith boddhaol. Dywedodd: “Yng Nghymru, mae menywod yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi na dynion. Fe wyddom hefyd fod menywod yn wynebu rhwystrau gwahanol ac ychwanegol pan ddaw'n fater o geisio gwaith boddhaol, a dyna pam rydym ni'n cydweithio gyda'r llywodraeth ac amrywiol bartneriaid i helpu i siapio economi Cymru a'r gymdeithas ehangach i sicrhau bod menywod yn gallu manteisio ar yr un cyfleoedd â dynion...”
Mae prosiect Sgiliau ar gyfer Bywyd yn cefnogi'r Rhaglen Cymunedau dros Waith ac fe'i cyllidir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.