Stryd Downing yn gwahodd Optometrydd Caerdydd i ddathliad 70 mlynedd y GIG
9 Gorffennaf 2018
Yr wythnos hon, cafodd Dr Barbara Ryan, ein Cyfarwyddwr Rhaglenni Ôl-raddedig, wahoddiad munud olaf i dderbyniad yn 10 Stryd Downing i ddathlu 70 mlynedd y GIG. Cynhaliwyd y dathliad preifat gan y Prif Weinidog ar drothwy pen-blwydd carreg filltir y GIG, a detholwyd ychydig o staff y GIG i fod yn bresennol.
Yn ei haraith yn y digwyddiad, disgrifiodd Prif Weinidog Theresa May y dathliad fel "pen-blwydd arbennig iawn i sefydliad arbennig iawn; Mewn byd sydd wedi newid bron y tu hwnt i gydnabyddiaeth."
Teimlodd Barbara anrhydedd i gael ei gwahodd i seremoni fawreddog o'r fath, ond, fu bron iddi fethu'r dathliad! "Yn wreiddiol, meddyliais fod y gwahoddiad yn un ffug, eglurodd Barbara, "felly fe hysbysais Stryd Downing - gan dderbyn cadarnhad yn syth bod y gwahoddiad yn un dilys!"
Roedd mynychwyr o bob rhan o'r DU, a chafodd pob mynychwr o'r GIG wybod eu bod yn cynrychioli 8000 o arbenigwyr yn eu maes.
Dywedodd Barbara, sydd wedi gweithio mewn ysbyty a chymuned optometreg, Canolfan Addysg Optometreg Ôl-raddedig Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru, 'roedd yn fraint wirioneddol i gael fy ngwahodd i ddathlu gyda'r GIG am ei fod yn sefydliad rwy'n llwyr gefnogi. Roedd yn wych i gwrdd â chydweithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff cymorth. Yn uchafbwynt oedd y ffaith i Theresa May gyfeirio at optometryddion ochr yn ochr â meddygon a deintyddion yn ei haraith."