Cyffur newydd posibl ar gyfer dau glefyd sy'n bygwth bywyd
5 Gorffennaf 2018
Mae cyffur posibl newydd sy'n deillio o natur ac a allai drin dau glefyd trofannol sy'n bygwth bywyd wedi'i ddarganfod yn sgil cydweithio rhwng dwy Brifysgol yng Nghymru.
Llwyddodd y tîm o ymchwilwyr i greu cyfansoddyn cyffuriau o'r planhigyn aeron goji sy'n gweithredu yn erbyn y parasitiaid sy'n achosi schistosomiasis a fascioliasis.
Er nad yw'n adnabyddus iawn, Schistosomiasis yw'r clefyd parasitig dynol mwyaf difäol ar ôl malaria, gan effeithio ar o ddeutu 600 miliwn o bobl ar hyn o bryd, ac achosi tua 300,000 o farwolaethau'r flwyddyn. Yn yr un modd, mae 17 miliwn o bobl ar hyn o bryd wedi'u heintio â Fascioliasis, ac mae'r niferoedd yn debygol o gynyddu.
Achosir schistosomiasis gan baraseit yn y dŵr, tra bod paraseit bwyd yn achosi fascioliasis. Caiff y ddau glefyd hyn, nad ydynt yn cael fawr o sylw, eu trin ag un cyffur, sy'n cael ei roi i'r boblogaeth lle mae'r clefydau hyn yn fwyaf cyffredin. Fodd bynnag mae'r math hwn o driniaeth unigol yn aml yn arwain at ymwrthedd i’r cyffur, a dyna sy'n digwydd bellach i lawer o bobl sydd mewn perygl o ddal y clefydau hyn.
O ganlyniad, ymunodd tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Andrew Westwell, â Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth, dan arweiniad yr Athro Karl Hoffmann, mewn prosiect cydweithredol i ddod o hyd i driniaeth cyffuriau newydd.
Wrth sôn am yr ymchwil, dywedodd yr Athro Westwell, 'Mae darganfod triniaeth newydd bosibl i ddau glefyd mor gyffredin yn ganfyddiad cyffrous a gobeithio y bydd yr ymchwil hwn yn arwain at fuddion iechyd pwysig i rai o bobl dlotaf y byd sydd mewn perygl o ddal Schistosomiasis a Fascioliasis.'
Gyda chyllid Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru Llywodraeth Cymru, cynlluniwyd y cyffur yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd a phrofwyd ei effeithiolrwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.