Panel o arbenigwyr rhyngwladol yn trafod yr Agenda Bwyd Trefol Newydd yng Nghaerdydd
22 Mehefin 2018
Daeth y digwyddiad ar 20 Mai a gynhelir gan Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd, ag arbenigwyr rhyngwladol ynghyd i ystyried degawd o bolisi bwyd trefol, a nodi ffyrdd allweddol o gryfhau ac ehangu agenda bwyd trefol drawsnewidiol.
Roedd y panel o arbenigwyr a gyflwynodd sgyrsiau yn y digwyddiad yn cynnwys: Dr Nevin Cohen (Prifysgol Dinas Efrog Newydd); Dr Jane Battersby (Prifysgol Cape Town, Y Ganolfan Affricanaidd ar gyfer Dinasoedd); Yr Athro Tim Lang (Prifysgol Dinas Llundain); Dr Ana Moragues-Faus (Prifysgol Caerdydd); Yr Athro Harriet Friedmann (Prifysgol Toronto) a'r Athro Bernardo Mançano Fernandes (Athro Gwadd, Prifysgol Caerdydd).
Yng nghyd-destun trefoli cynyddol, mae dinasoedd wedi dod yn safleoedd allweddol ar gyfer trawsnewid ein system fwyd er mwyn cynnig bwyd da i bawb. Yn fwy cyffredinol, mae’r ardal drefol wedi’i nodi fel safle allweddol ar gyfer chwyldro lle daw trawsnewidiad natur i’r amlwg yn gliriach nag unrhyw le arall, ar ei ffurf ffisegol ac o ran ei oblygiadau ecolegol-gymdeithasol; ac, felly, mae’n lle allweddol ar gyfer ailffurfio deinameg y system fwyd.
Trafododd y panel cyntaf, gyda Dr Cohen, Dr Battersby a'r Athro Lang, rôl dinasoedd wrth atgynhyrchu y system fwyd a’i thrawsnewid. Drwy dynnu sylw at enghreifftiau o ddinasoedd arloesol, fe soniodd y siaradwyr am sut mae dinasoedd wedi dod yn endidau allweddol yn y maes polisi bwyd.
Fe wnaeth yr ail banel gyda Dr Moragues-Faus, yr Athro Friedmann a'r Athro Fernandes, fyfyrio ar sut mae dinasoedd yn llunio ac yn cael eu llunio gan ddynameg systemau bwyd byd-eang. Dadansoddwyd y rhyng-gysylltiadau cynyddol o ran polisïau bwyd trefol drwy ddyfodiad ac ehangiad rhwydweithiau dinasoedd cenedlaethol a rhyngwladol, fel Pact Polisi Bwyd Milan, a rhwydweithiau cenedlaethol a byd-eang.
Roedd y cwestiynau allweddol a bu’r panel yn eu trin a’u trafod yn cynnwys sut y gall ddinasoedd gyfrannu at drawsnewid deinameg llywodraethu bwyd cenedlaethol, rhyngwladol ac Ewropeaidd, a phwy yw'r asiantau allweddol a’r broses a allai gefnogi'r trawsnewidiadau hyn.
Daeth y diwrnod i ben gyda thrafodaeth agored i nodi'r camau nesaf yn natblygiad agenda bwyd trefol byd-eang a thrawsnewidiol.
Ariannwyd y digwyddiad hwn gan Raglen Cymrodoriaeth Sêr Cymru II.