Interniaid y Brifysgol yn dathlu diwrnod graddio
4 Gorffennaf 2018
Mae myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) wedi graddio ar ôl ymgymryd ag interniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd pobl ifanc ag anableddau dysgu y cyfle i fod yn rhan o brosiect rhyngwladol mawr gyda Phrifysgol Caerdydd, lle cawsant gymryd rhan mewn interniaethau mewn gwahanol adrannau o’r Brifysgol.
Dros 30 wythnos yn ystod 2017/18, bu’r myfyrwyr yn gweithio mewn nifer o ysgolion ac adrannau yn y Brifysgol, megis Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd a’r adran Cyfathrebu a Marchnata, gan ennill profiad ymarferol o’r gwaith a wneir yno.
Gwnaeth Jade Smith ei interniaeth gydag adran Ystadau a Chyfleusterau Campws fel cynorthwy-ydd domestig yn Llys Cartwright. Yn dilyn ei interniaeth, cynigwyd swydd iddi gan Brifysgol Caerdydd. Dywedodd Jade: “Fe wnes i fwynhau pob agwedd o fy interniaeth, mae wedi gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus. ‘Dwi’n dechrau fy swydd ar ddydd Llun, a heb Brosiect SEARCH ‘dwi’n amau na fyddai’r hyder wedi bod gennyf i fynd amdani.”
Mae’r holl interniaid yn fyfyrwyr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro (CAVC) ac wedi cael cefnogaeth gan CAVC ac Asiantaeth Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ELITE.
Mae’r cynllun, menter fyd-eang a ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau, yn cael ei ariannu yng Nghymru gan brosiect ehangach Ymgysylltu i Newid gyda Phrifysgol Caerdydd; y cyflogwr cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan ym Mhrosiect SEARCH.
Cafwyd cynulleidfa dda yn y seremoni raddio a gynhaliwyd ym mhrif adeilad y Brifysgol, gyda rhieni a nifer o’r mentoriaid a’r rheolwyr y bu’r interniaid yn gweithio â nhw yn dangos eu cefnogaeth.
Gyda’r trefnwyr eisoes yn dechrau cynllunio ar gyfer y rownd nesaf o interniaethau, dywedodd Lily Beyer o Asiantaeth Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ELITE: “Un o’r manteision annisgwyl ond pwysig o gael adran o fewn y Brifysgol sy’n cynnig lle i intern yw’r effaith gadarnhaol y mae’n cael ar y staff.
“Mae’r adborth wedi dangos bod staff yn teimlo’n fwy cydlynol fel tîm, yn ogystal â theimlo ymdeimlad o bwrpas ac agwedd gadarnhaol o ganlyniad i weithio gydag intern o Brosiect SEARCH. Mae’r prosiect yn dibynnu ar adrannau yn cofrestru i gael intern ac ni fyddai mor llwyddiannus heb yr ymgysylltu hwn.”