Ymchwil yn dangos bod band eang cyflym iawn yn rhoi hwb i economi Cymru
4 Gorffennaf 2018
Mae gwaith dadansoddi a wnaed ym Mhrifysgol Caerdydd yn datgelu effaith lawn technolegau digidol ar gynhyrchiant busnesau.
Lluniwyd yr Adroddiad Effaith Economaidd i Gymru yn Uned Ymchwil yr Economi Ysgol Fusnes Caerdydd, ac mae’n tynnu ar ddata arolwg a gasglwyd gan dros 450 o fentrau bach a chanolig ledled Cymru.
Mae'r canfyddiadau’n dangos y gallai gwasanaethau â chymorth band eang wella trosiant tua 111,000 o fentrau bach a chanolig yng Nghymru. Ar sail enghraifft o gynnydd ceidwadol o 1% yn nhrosiant y mentrau bach a chanolig dan sylw, amcangyfrifir y gallai cyfanswm gwerthiant mentrau bach a chanolig yng Nghymru y gellir ei briodoli i fabwysiadu band eang fod bron yn £229 miliwn, gyda £124m (54%) o hynny’n deillio o'r gwasanaethau a alluogwyd gan fand eang cyflym iawn yn unig.
Hefyd roedd tua 32,100 o fentrau bach a chanolig, yr oedd 16,600 (52%) ohonynt yn ddefnyddwyr band eang cyflym iawn, hefyd yn rhagfynegi cynnydd parhaus yn eu cyflogaeth. Ar sail rhagdybiaeth ddangosol o gynnydd o 1% yng nghyflogaeth y cwmnïau dan sylw, disgwylir i ryw 1,752 o gyfleoedd cyflogaeth newydd ddod i’r amlwg.
Ar hyn o bryd mae 42% o fusnesau yn derbyn band eang cyflym iawn. Ynghyd ag estyn band eang cyflym iawn i safleoedd busnes drwy raglen Cyflymu Cymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu Taleb Cysylltedd Tra Chyflym ar gyfer busnesau sydd eisiau elwa ar gyflymder uwch fyth. Er mwyn sicrhau bod busnesau’n gwneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd ar gael, mae’n cefnogi mentrau bach a chanolig i ddeall, mabwysiadu ac ymelwa ar y manteision mae band eang cyflym yn eu darparu drwy ei gynllun Cyflymu Cymru i Fusnesau, sy’n werth £12m.
Dywedodd Dylan Henderson, o Ysgol Fusnes Caerdydd: "Am y tro cyntaf, mae'r dadansoddiad hwn yn datgelu i ba raddau gall gwasanaethau digidol ac offer gyfrannu at lwyddiant mentrau bach a chanolig.
"Mae cyfran uchel o’r busnesau sy'n integreiddio technolegau newydd megis storio cwmwl, cyfryngau cymdeithasol a fideogynadledda yn eu gwaith yn gweld cynnydd nodedig yn eu trosiant, yn ogystal â chynnydd yn nifer y bobl y maent yn eu cyflogi. Mae ein cyfrifiadau hefyd yn dangos beth yw ystyr hynny i economi Cymru yn ei chyfanrwydd.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ sydd â chyfrifoldeb am faterion digidol, Julie James AC: "Mae'n amlwg bod gwneud yn fawr o dechnoleg ddigidol yn hollbwysig ar gyfer busnesau. Yng Nghymru bellach gall mwy na naw o bob deg safle gael mynediad i fand eang cyflym iawn, sef cynnydd o ychydig dros hanner yr hyn ydoedd pan ddechreuwyd cyflwyno Cyflymu Cymru. Bydd rhai busnesau am cael cyflymder uwch fyth, a dyna pam rydym ni hefyd yn darparu’r Dalebau Cysylltedd Tra Chyflym.
"Rydym am i fusnesau ddysgu mwy am sut mae cofleidio technoleg ddigidol a byddem ni’n eu hannog i ddefnyddio ein cynllun Cyflymu Cymru i Fusnesau sydd eisoes wedi cynorthwyo 3,000 o fusnesau.
"Mae buddsoddi mewn seilwaith band eang, fel yr ydym wedi gwneud drwy Cyflymu Cymru ac y byddwn ni’n parhau i’w wneud drwy ei estyn ymhellach, yn dwyn ffrwyth trwy roi hwb i fusnesau a’r economi ehangach, fel mae’r arolwg hwn yn dangos.”