Darlith Gwobr Charles Darwin
2 Gorffennaf 2018
Mae Dr Emma Yhnell, o Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl y Brifysgol, wedi’i dewis gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain (BSA) i gyflwyno un o ddarlithoedd nodedig y Wobr eleni.
 hithau’n un o saith ymchwilydd gorau y DU, ac yn cael ei chydnabod am ei gwaith arloesol a’i sgiliau cyfathrebu dymunol, bydd Emma yn destun dathlu yng Ngŵyl Gwyddoniaeth Prydain yn Hull, lle bydd yn rhoi Darlith Gwobr Charles Darwin ar gyfer y Gwyddorau Amaethyddol, Biolegol a Meddygol.
Bydd Emma yn siarad am ei gwaith ymchwil arloesol, gan ddatgelu sut mae hi’n parhau i wthio ffiniau ei maes ymchwil, sef clefyd Huntington. Bydd hi’n dathlu llwyddiannau defnyddio hyfforddiant yr ymennydd i hyrwyddo manteision cynnwys y cyhoedd a chleifion mewn ymchwil ac ystyried yr heriau o chwilio am driniaethau ar gyfer clefyd Huntington.
“Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis i gyflwyno Darlith Charles Darwin Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain 2018”, dywedodd Emma.
“Mae’n cynnig llwyfan gwych i dynnu sylw at yr ymchwil parhaus i glefyd Huntington. Mae’n anrhydedd enfawr dilyn yn ôl traed cyfathrebwyr gwyddoniaeth anhygoel gan gynnwys Maggie Aderin-Pocock a’r Athro Brian Cox. Alla i ddim aros i roi fy narlith yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Prydain yn Hull fis Medi.”
Mae Gŵyl Wyddoniaeth Prydain yn cael ei chynnal rhwng dydd Mawrth 11 a dydd Gwener 14 Medi ym Mhrifysgol Hull a bydd dros 100 o ddigwyddiadau ar y campws ac ar draws y ddinas. Mae’n rhoi cyfle i gwrdd ag ymchwilwyr wyneb yn wyneb a thrafod ymchwil arloesol, arloesedd a syniadau ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg.
Mae Emma hefyd wedi addysgu cwrs rhan-amser mewn Addysg Barhaus a Phroffesiynol ers tair blynedd. Dywedodd 'Pleser o’r mwyaf yw addysgu ar gyfer Addysg Barhaus a Phroffesiynol. Mae'r oedolion sy'n dysgu yn fy ysbrydoli, ac mae'n wych gwybod fy mod yn chwarae rhan fach wrth eu helpu i gyflawni eu llawn botensial.'