Canu Corawl Cymreig Cyfoes gan y Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes
29 Mehefin 2018
Yn ddiweddar, perfformiodd Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Prifysgol Caerdydd gyngerdd cerddoriaeth gorawl gyfoes Gymreig yn Eglwys Sant Awstin, Penarth.
Yn ystod wythnos 18 Mehefin, recordiodd y Grŵp ddetholiad o waith corawl newydd gan gyfansoddwyr Cymreig yn yr Eglwys, ac arweiniodd at berfformiad ddydd Sadwrn 23 Mehefin, gyda chyfansoddwyr llawer o’r darnau a berfformiwyd yn y gynulleidfa.
Mae’r rhaglen, a luniwyd gan gyfarwyddwr yr ensemble, Dr Robert Fokkens, yn rhoi cipolwg ar hyd a lled gweithgaredd cerddoriaeth greadigol yng Nghymru heddiw. Roedd perfformiadau’n cynnwys cyfansoddiadau gan Max Davies, Guto Puw, Rhian Samuel ac Eloise Gynn. Cefnogwyd y perfformiad gan yr Ysgol Cerddoriaeth a grant gan gronfa Loteri “Rhaglennu Cerddoriaeth Gymreig” Tŷ Cerdd.
Yn ôl adolygiad o’r perfformiad gan Seen and Heard International, “Roedd y darnau byrion, gan fwyaf, yn cyflwyno amrywiaeth eang o arddulliau a thechnegau ag iddynt apêl eang ac wedi denu cynulleidfa oedd, er yn fach, heb ei chyfyngu’n gyfan gwbl i gorff dethol o aficionados.
“Gwobrwywyd y gynulleidfa hon gan berfformiadau oedd, ar y cyfan, yn ardderchog, gan gorff o fyfyrwyr (hynny yw, nid cantorion proffesiynol) oedd yn amlwg wedi paratoi’n drylwyr o dan arweiniad arbenigol Robert Fokkens. Roeddwn yn falch o glywed bod nifer o’r darnau oedd a berfformiwyd wedi’u cynnwys ar CD fydd ar werth maes o law, ac a gafodd ei chreu yn ystod yr wythnos cyn y gyngerdd hon.”
Yn ôl Dr Robert Fokkens, Cyfarwyddwr y Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes: “Roedd ein myfyrwyr fu’n perfformio yn gwbl eithriadol o ran eu hymrwymiad, wrth ganolbwyntio ac fel cerddorion drwy gydol y prosiect.”
Caiff CD o’r recordiadau eu rhyddhau gan Tŷ Cerdd yn hwyrach eleni.