Ewch i’r prif gynnwys

'Waliau gwyrdd' yn Nigeria

28 Mehefin 2018

City in Nigeria

Mae ymagwedd newydd at ymdrin â thymheredd uchel mewn tai a chynhyrchu ffrwd incwm i deuluoedd yn Nigeria wedi'i datblygu a'i phrofi gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r tîm, sy'n cynnwys arbenigwyr mewn pensaernïaeth a busnes, wedi datblygu systemau gwyrddio fertigol, a elwir yn waliau gwyrdd, sy'n fforddiadwy ac yn ecogyfeillgar. Mae i'r rhain y potensial i sicrhau buddion iechyd ac economaidd i deuluoedd incwm isel ar draws Affrica.

Strwythurau fertigol yw waliau gwyrdd sydd â phlanhigion yn eu gorchuddio, yn aml ar ffrâm fetel neu bren sy'n cynnwys pridd neu gyfrwng tyfu arall.

Maen nhw wedi dod yn boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn cael eu defnyddio mewn llawer o adeiladau preswyl a masnachol ar draws y byd, nid yn unig am eu hapêl esthetig ond hefyd oherwydd eu gallu i ostwng tymheredd, darparu cnydau ar gyfer bwyd a mantais economaidd a chynyddu bioamrywiaeth.

Yn eu hastudiaeth, mabwysiadodd y tîm 'ymagwedd arloesi cyfrifol' drwy ddatblygu technoleg wal werdd briodol ar y cyd â chymuned Agege, tref sianti fawr yn Lagos, Nigeria. Cyrchwyd y deunyddiau'n lleol a chwaraeodd y gymuned ran fawr yn cynllunio, adeiladu a chynnal y prototeipiau.

Gosodwyd dwy wal werdd wahanol, y naill wedi'i hadeiladu o bolyethylen dwysedd uchel (HDPE) fforddiadwy a'r llall o fambŵ ecogyfeillgar, y tu allan i ddau dŷ preswyl yn Lagos.

Llenwyd y waliau gwyrdd ag amrywiaeth o blanhigion bwytadwy a meddyginiaethol a'u clymu at waliau allanol ystafelloedd lle'r oedd pobl yn byw yn y ddau dŷ.

Cofnodwyd tymheredd yr awyr mewnol, lleithder cymharol a thymheredd arwyneb y waliau ym mhob ystafell oedd nesaf at y waliau gwyrdd, yn ogystal â mewn ystafelloedd cymharol heb waliau gwyrdd.

Dangoswyd bod y waliau gwyrdd yn gostwng tymheredd yr awyr mewnol yn yr ystafell 2.3°C ar gyfartaledd, gyda'r preswylwyr yn dweud eu bod yn gyfforddus 90%-100% o'r amser, o'i gymharu â 23%-45% yn yr ystafell rheolydd.

Dywedodd cydawduron yr astudiaeth, Dr Clarice Bleil de Souza, Dr Julie Gwilliam a Dr Oluwafeyikemi Akinwolemiwa: "Mae'n amlwg o'r canlyniadau hyn bod gwyrddio fertigol yn gallu dod â chysur thermol a manteision economaidd, gyda'r posibilrwydd o dyfu bwyd a phlanhigion meddyginiaethol mewn ardaloedd gorlawn o Affrica o bosib yn cynnig yr effaith gadarnhaol fwyaf sylweddol."

Cynhaliodd yr ymchwilwyr hefyd ddadansoddiad costau llawn gan ystyried cost prynu'r deunyddiau, adeiladu'r waliau gwyrdd ac yna eu cynnal dros nifer o flynyddoedd.

Dywedodd cydawdur yr astudiaeth yr Athro Luigi De Luca, o Ysgol Busnes Caerdydd: "Gallai'r ddau brototeip fod yn broffidiol iawn ac ad-dalu'r buddsoddiadau'n gymharol gyflym gan hyd yn oed ganiatáu rhywfaint o golli cynnyrch yn y cynllun. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y preswylwyr yn dymuno bwyta'r cynnyrch eu hunain yn hytrach na'u gwerthu ymlaen, yn enwedig o ystyried bod cyfran uchel o wariant mewn grwpiau incwm isel yn Nigeria yn mynd ar fwyd a diod."

"Mae llawer mwy o welliannau a materion i'w hystyried er mwyn gwneud hyn yn hyfyw ac yn fwy fforddiadwy i deuluoedd yn Affrica, ond bydd datblygu cynllun y cynnyrch hwn gobeithio'n llywio ymdrechion i wireddu'r system hon a darparu newid sy'n para i deuluoedd ar draws y cyfandir."

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol hon yn unigryw oherwydd ei thraddodiad o gyfuno creadigrwydd â chanolbwyntio ar greu, ei phortffolio ymchwil, calibr ei staff a'i lleoliad unigryw.