Dau Sgwâr Canolog yn barod ar gyfer ymrestru ym mis Medi
5 Gorffennaf 2018
Ym mis Medi bydd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn agor drysau ei gartref newydd am y tro cyntaf.
Bydd pob myfyriwr sy'n cofrestru'r hydref hwn yn gwneud hynny yn Dau Sgwâr Canolog, a bydd amserlen newydd yn dyrannu darlithoedd a seminarau i ystafelloedd yn yr adeilad newydd.
Bydd y lleoliad newydd, ochr yn ochr â BBC Cymru a Trinity Mirror, yn helpu'r Ysgol i ehangu ar ei chysylltiadau presennol gyda chwmnïau cyfryngau lleol a chenedlaethol. Bydd hefyd yn helpu i gefnogi cyfleoedd lleoliadau gwaith ac yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.
Pennod Newydd
"Bydd ein holl fyfyrwyr yn elwa ar y darlithfeydd, yr ystafelloedd seminar a’r mannau astudio newydd, tra bydd ein myfyrwyr ôl-raddedig yn elwa ar ein buddsoddiad mewn cyfleusterau cynhyrchu." dywedodd yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr Canolfan yr Ysgol ar gyfer Newyddiaduraeth.
"Yn ogystal â chwe ystafell newyddion a nifer o ystafelloedd golygu fideo, bellach bydd gennym ddwy stiwdio deledu a dwy stiwdio radio. Bydd hyn yn hwb enfawr i’n gallu i gynnig profiad cynhyrchu arloesol."
"Rydym yn hynod gyffrous am yr hyn y byddwn yn gallu ei gynnig i'n myfyrwyr newydd, a'r myfyrwyr sy'n dychwelyd ymhen ychydig fisoedd."
Cymerwch gipolwg tu mewn
Ble ydym ni?
O ganol mis Medi 2018 bydd staff gweinyddol ac addysgu yn cael eu lleoli yn Dau Sgwâr Canolog a bydd yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysgu, gan gynnwys cofrestru, yn cael eu cynnal yno.
Cyfeiriad yr ysgol fydd Dau Sgwâr Canolog, Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FS.