Hwyl fawr i hynny oll? O Lenin i Putin
27 Mehefin 2018
Arweinwyr blaenllaw Rwsia ddoe a heddiw o dan y chwyddwydr yn Russian Revolution Centenary gan un o haneswyr Prifysgol Caerdydd
Mae dwy erthygl o bwys gan un o haneswyr Prifysgol Caerdydd yn ystyried gwaddol arweinydd y Chwyldro a sut mae arweinwyr blaenllaw’r oes bresennol yn ceisio diffinio Chwyldro Rwsia ganrif yn ddiweddarach.
Cyhoeddir yr erthyglau ychydig cyn canmlwyddiant llofruddiaeth y Tsar a’i deulu a’r foment pan gafodd dynion a menywod Rwsia hawliau cyfartal o dan gyfansoddiad Gweriniaeth Sofietaidd Ffederal Sosialaidd Rwsia.
Yn rhifyn y mis hwn o History Today, mae Dr James Ryan yn dadlau na ddylid cyfyngu Chwyldro Rwsia i 1917, ond yn hytrach bod gwaddol ei arweinydd a’i brif ideolegwr yn fyw o hyd yn sgîl ei holl gyferbyniadau ofnadwy. Goodbye Lenin? A Centenary Perspective yw stori glawr y cylchgrawn hanes nodedig.
Mae gan yr academydd erthygl hefyd yn rhifyn mis Mehefin o’r cyfnodolyn Revolutionary Russia, ac mae wedi creu cysylltiadau rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Academaidd Wladol y Dyniaethau ym Moscow sy’n sefydliad uchel iawn ei fri yn Rwsia.
Yn 'The Politics of National History: Russia's Ruling Elite and the Centenary of 1917' mae Dr Ryan yn dadansoddi’r modd y mae arweinwyr blaenllaw Rwsia (gan gynnwys yr Arlywydd Putin) wedi mynd ati i goffáu canmlwyddiant Chwyldro Rwsia.
Mae’r erthygl – sy’n ymddangos yn yr unig gyfnodolyn academaidd arbenigol Saesneg sy’n ymwneud yn gyfan gwbl ag astudio hanes Rwsia oddeutu 1880-1930 – yn trin a thrafod beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am feddylfryd y chwaraewyr allweddol, pwysigrwydd hanes fel ffordd o lunio hunaniaeth genedlaethol, a’r modd y mae Rwsia heddiw yn helpu i ffurfio cynrychiolaeth o orffennol Sofietaidd dadleuol.
Mae awdur Lenin's Terror: The Ideological Origins of Early Soviet State Violence,
Dr James Ryan, yn gweithio ar hyn o bryd ar An Intellectual History of Soviet State Violence, 1918–1941.