'Cyrch' y blaned Mawrth i ddisgyblion
26 Mehefin 2018
Mae dros 150 o ddisgyblion o 12 ysgol yn creu eu ffug 'gyrch' eu hunain i'r blaned Mawrth drwy weithgareddau ymarferol wedi'u cynllunio i annog cariad at wyddoniaeth.
Mae digwyddiad blynyddol STEM yn Fyw! yn tynnu'r plant Blwyddyn 8 (12 a 13 oed) o'r dosbarth ac yn eu gosod mewn byd o wyddoniaeth gyda chymorth staff a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Caiff y dysgwyr ifanc eu herio i greu a chynnal trefedigaeth newydd ar y blaned Mawrth gan ddefnyddio gweithgareddau'n seiliedig ar bynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
Cynhelir STEM yn Fyw! 2018 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Iau 28 Mehefin gyda disgyblion o ysgolion yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd, sir Caerffili a Bro Morgannwg.
Dywedodd yr athro gwyddoniaeth Huw Rees, o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn sir Pen-y-bont ar Ogwr: "Rwy'n credu bod digwyddiadau STEM mor bwysig i'r disgyblion am eu bod yn dangos sut mae nifer o wahanol feysydd pwnc a disgyblaethau'n dod at ei gilydd i ddatrys problemau gwirioneddol.
"Mae'r gwaith ar ddull prosiect sy'n cael ei hyrwyddo yn debyg i'r hyn y bydden nhw'n ei wneud wrth fynd i swyddi yn y dyfodol.
"Bydd gweithio gyda mathemategwyr, peirianwyr a gwyddonwyr hefyd yn rhoi ymdeimlad da iddyn nhw o'r hyn y gallen nhw ddymuno ei wneud pan fyddan nhw'n hŷn, fydd yn helpu eu huchelgais a'u penderfyniad i gyflawni drwy eu cyfnod yn yr ysgol."
Mae'r digwyddiad yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd - gan gynnwys Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinwe Caerdydd, Amgueddfa Cymru, y prosiect Campws Cyntaf a gyllidir gan CCAUC a Chyd-Wasanaeth Addysg Consortiwm Canolbarth y De.
Dywedodd Ciara Hand, Uwch Swyddog Dysgu, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: "Mae STEM yn Fyw! yn gyfle gwych i ddysgwyr gael mynediad unigryw at gasgliadau ac ymchwil gwyddonol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a chymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau STEM sy'n cysylltu â chymwysiadau'r byd real."
Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: "Mae hwn yn gyfle cyffrous i lawer o ffigurau blaenllaw mewn addysg STEM gydweithio i ysbrydoli myfyrwyr ysgol.
"Rydym ni wedi bod yn falch i gefnogi gweithgareddau o'r fath dan ein baner Ymgyrraedd yn Ehangach dros y 15 mlynedd ddiwethaf, gan helpu i chwalu rhwystrau ac ehangu mynediad at addysg uwch a sgiliau lefel uwch.
"Rwy'n siŵr y bydd senario planed Mawrth eleni'n ysbrydoli llawer o ddisgyblion i ystyried parhau gyda phynciau STEM i addysg uwch a thu hwnt."
Mae gweithgareddau blaenorol yn STEM yn Fyw! wedi cynnwys cynllunio strwythurau i wrthsefyll daeargrynfeydd ac ymchwilio sut mae gwenyn yn cael eu defnyddio i ganfod cyffuriau i ymladd bacteria.