Dawns Haf yn llwyddiant
6 Mehefin 2018
Cynhaliodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ddawns haf ar 4 Mai 2018.
Dyma’r ddawns haf gyntaf i’r Ysgol trefnu.
Roedd y digwyddiad, a gafodd ei ariannu’n rhannol gan Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn gyfle i gymuned yr Ysgol ddod ynghyd a dathlu.
Daeth nifer dda o bobl i’r digwyddiad a gynhaliwyd yn yr Hen Lyfrgell, gan gynnwys myfyrwyr o bob blwyddyn ar draws yr Ysgol, o’r flwyddyn gyntaf i garfan PhD yr Ysgol.
Roedd diodydd i’r gwesteion wrth iddynt gyrraedd ac yna pryd o fwyd, cyn croeswau'r siaradwr gwadd ar y llwyfan. Roedd yr Ysgol yn falch o groesawu Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a anerchodd y gwesteion am bwysigrwydd ymfalchïo yn y Gymraeg, a'i gwerth i'w bywydau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol.
Cafwyd ymateb gwych i'w araith, a hwn oedd uchafbwynt y noson i lawer. Gyda'r areithiau drosodd, fe gyflwynodd aelodau o’r panel Staff/Myfyrwyr flodau i Dr Angharad Naylor a Cadi Thomas am hyrwyddo a threfnu'r ddawns. Wedi hynny, roedd hi'n amser dawnsio. Cafwyd cerddoriaeth gan DJ Dilys (Dylan Elidyr Jenkins), a bu pawb yn dawnsio nes perfeddion y nos.
Mae Ysgol y Gymraeg yn gobeithio y daw dawns yr haf yn rhan o gylch blynyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol sy'n helpu i atgyfnerthu'r ymdeimlad o gymuned ymysg y blynyddoedd, a gwella'r berthynas rhwng staff a myfyrwyr. Cafodd cymuned estynedig yr Ysgol hefyd ei chynrychioli yn y ddawns gan CameraSioned (Sioned Birchall), cynfyfyriwr a oedd wrth law i dynnu lluniau swyddogol y noson. Ewch i gael cip olwg ar rai o luniau'r noson fythgofiadwy ar dudalen Facebook yr Ysgol!