Myfyrwyr ar gwrs maes yn achub crwban mewn perygl
20 Mehefin 2018
Fe wnaeth myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd achub bywyd crwban môr lledrgefn ar Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd ar ôl ei weld yn sownd mewn rhaff cwch.
Yn ystod taith maes ecoleg forol drofannol yn Tobago, fe wnaeth myfyrwyr chwim eu meddwl achub bywyd crwban, drwy neidio i mewn i dynnu'r rhaff a'i ryddhau yn ôl i'r môr.
Roedd myfyrwyr y gwyddorau biolegol yn eu hail flwyddyn yn ymweld â'r ynys Garibïaidd fel rhan o'u cwrs, i ddysgu sgiliau maes ymarferol, ond yn ystod gwibdaith bu'n rhaid i'r myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau.
Meddai Dr Sarah Perkins, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd: "Yn ystod arolwg o'r greigres, fe welodd y myfyrwyr grwban mawr oedd yn sownd mewn rhaff. Fe wnaeth y myfyrwyr sylweddoli'n gyflym mai lledrgefn oedd y crwban, rhywogaeth sydd fel arfer dim ond yn y môr agored, ac sydd mewn perygl mawr.
"Dyma'r mwyaf o'r crwbanod, ac roedd y crwban 800 pwys hwn wedi dod i'r lan i ddodwy ei hwyau ar y traeth, ond daeth hi'n sownd yn y rhaff cwch wrth wneud hynny. Mae'n rhaid i grwbanod anadlu aer ar wyneb y dŵr, ac fe wnaeth gallu ein myfyrwyr i feddwl yn gyflym i symud y rhaff ei hachub rhag boddi."
Dywedodd Rowan Duckworth, myfyriwr gwyddorau biolegol yn ei ail flwyddyn: "Cefais fy synnu at ba mor fawr oedd y crwban, ac roedd yn brofiad gwych i ni ei weld yn nofio yn ôl i'r dŵr dwfn ar ôl cael ei rhyddhau
Dywedodd yr Athro Jo Cable, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Fel rhan o'n rhaglenni gradd bioleg, mae myfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cyrsiau maes, sy'n eu galluogi i ddatblygu a hogi eu sgiliau fel ymchwilwyr maes.
"Rydym yn rhoi profiad ymarferol o weithio gydag anifeiliaid, planhigion a micro-organebau i'n myfyrwyr, i'w galluogi i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fod y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr – ond defnyddiodd y myfyrwyr hyn eu sgiliau i achub anifail mewn angen.
"O ganlyniad i'w gallu i feddwl yn gyflym cafodd y crwban lledrgefn, sy'n rhywogaeth mewn perygl, ei dynnu o'r rhaff cyn iddo gael ei anafu er mwyn ei ryddhau yn ôl i'r môr.
"Roedd hi'n ddiwrnod priodol iawn i'w achub – Diwrnod Cefnforoedd y Byd, sy'n dathlu ein cefnforoedd ac yn canolbwyntio ar lygredd plastig. Mae ein myfyrwyr yn cael eu hyfforddi i fod y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, a rhan fawr o'u gwaith yn y dyfodol fydd mynd i'r afael â phroblemau cynaliadwyedd a llygredd plastig."