Golau gwyrdd i Gyflymydd Arloesedd Data £3.5m
19 Mehefin 2018
Bydd Cyflymydd Arloesedd Data £3.5m newydd yn gweithio gyda busnesau Cymru i droi ymchwil gwyddorau data a dadansoddi yn gynhyrchion a phrosesau’r dyfodol.
Mae'r Cyflymydd wedi'i gyllido'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru sy'n ymuno â Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu'r prosiect.
Nod y Cyflymydd Digidol yw trosglwyddo gwybodaeth gwyddorau data a dadansoddi o Brifysgol Caerdydd i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Bydd y cyllid yn helpu ymchwilwyr i weithio ar brosiectau cydweithredol gyda chwmnïau’n arbenigo mewn TGCh a seibr-ddiogelwch, deunyddiau uwch, ynni ac eco-arloesi.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: "Rwyf i'n falch fod Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r Cyflymydd Arloesedd Data cyffrous hwn fydd yn pontio'r cyswllt rhwng ymchwil a busnes er mwyn i gwmnïau ar lawr gwlad elwa o ymchwil arloesol sy'n torri tir newydd yng Nghymru.
Mae'r Cyflymydd yn cyd-fynd â'n Cynllun Gweithredu Economaidd a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr sy'n gosod ymagwedd 'Llywodraeth gyfan' glir at roi hwb cryf i fusnesau uchel dechnoleg y dyfodol.
“Bydd y £1.86 o'r ERDF drwy Lywodraeth Cymru yn helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ffynnu. Bydd yn creu swyddi gwyddorau data ansawdd uchel ac yn helpu i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cyffrous newydd y gellir eu defnyddio yng Nghymru a thrwy'r byd."
Bydd Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd yn recriwtio wyth o wyddonwyr data medrus i roi cychwyn i'r prosiect yr hydref hwn.
Dywedodd cyd-gyfarwyddwr y Cyflymydd Arloesedd yr Athro Roger Whitaker, Deon Ymchwil y Coleg ac Athro Deallusrwydd Gyfunol: "Bydd y Cyflymydd yn helpu i fanteisio ar gyfle cynyddol ar gyfer gwell ecsbloetio economaidd ar ddadansoddi ar sail data a deallusrwydd peiriant mewn busnesau, gan ddefnyddio ymagwedd wedi'i thargedu sy'n cyd-fynd â chryfderau'r sector yng Nghymru, gan gynnwys TGCh a seibr-ddiogelwch; Deunyddiau Uwch; Ynni ac eco-arloesi."
Ychwanegodd cyd-gyfarwyddwr y Cyflymydd Dr Pete Burnap: "Bydd y Cyflymydd yn llenwi bwlch yn yr 'ecosystem gwyddorau data' yng Nghymru. Mae cynlluniau'n bodoli i gefnogi cymwysterau israddedig, mentora graddedigion, a helpu busnesau mwy o faint i brynu arbenigedd. Ond nid oes darpariaeth yn bodoli ar hyn o bryd i adeiladu ymwybyddiaeth, capasiti a sgiliau Gwyddorau Data'n systematig gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Nid oes gan y busnesau hyn yr un raddfa o adnoddau â’r sector cyhoeddus neu gwmnïau mawr i 'dreialu' ffyrdd newydd o weithio, neu fuddsoddi mewn trawsnewidiad busnes nad yw wedi'i brofi ar sail gwyddorau data. Bydd y Cyflymydd yn ceisio llenwi'r bwlch hwn."
Lleolir y Cyflymydd, y disgwylir iddo gael ei lansio ym mis Tachwedd, yn Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data Prifysgol Caerdydd.