Gwên iach i blant Cymru
19 Mehefin 2018
Mae adroddiad newydd am iechyd deintyddol yng Nghymru yn dangos lleihad sefydlog a pharhaus mewn pydredd dannedd ymhlith plant rhwng 11 a 12 oed.
Mae ymchwil sydd wedi'i harwain gan Brifysgol Caerdydd a'i hariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod y canran o blant â phydredd dannedd wedi lleihau'n sylweddol o 45% yn 2004/05 i 30% yn 2016/17.
Mae'r duedd tymor hir yn dangos dirywiad sefydlog o 63% yn 1988/89 i 30% yn 2016/17. O fewn y 30% o blant â phydredd dannedd yn 2016/17, roedd cyfartaledd o 2.1 o ddannedd oedolion wedi pydru, ar goll, neu wedi eu llenwi.
Yr adroddiad yw'r diweddaraf a gyhoeddwyd gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru, ac mae wedi'i seilio ar arolwg o 5,700 o blant rhwng 11 a 12 oed mewn ysgolion yng Nghymru yn 2016/2017. Roedd yn asesu iechyd dannedd parhaol (oedolyn) sy'n ymddangos rhwng 6 a 12 oed.
Dywedodd Maria Morgan, arweinydd yr astudiaeth, o Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Er bod y lleihad sylweddol hwn mewn pydredd yn galonogol mae gwaith i'w wneud o hyd, yn enwedig pan mae ymdrechion i gyfyngu ar faint o siwgr sy'n cael ei fwyta yn cystadlu ag ymgyrchoedd marchnata ar gyfer byrbrydau sy'n llawn siwgr, a'r arfer o roi siwgr mewn bwydydd a diodydd sydd wedi eu prosesu.
"Yn y tymor hir, rydym yn gobeithio y bydd effeithiau Cynllun Gwên, ein rhaglen genedlaethol ar gyfer gwella iechyd y geg, yn cael effaith fwy ar lefelau pydredd dannedd yn y grŵp oedran hwn."
Dywedodd Anup Karki, Arweinydd Tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd ac Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol y Cyhoedd ar gyfer Doeth am Iechyd Cymru: "Mae'r gyfres o arolygon yn tynnu sylw at welliannau sylweddol mewn iechyd y geg ymhlith plant rhwng 11 a 12 oed yng Nghymru, fodd bynnag, ni ddylem anghofio bod baich y clefyd ataliadwy hwn yn dal i fod yn uchel.
"Bydd angen ymyriadau parhaus ar fwy nag un lefel i leihau faint o siwgr mae'r boblogaeth yn ei fwyta, ynghyd â mesurau atal a gofal deintyddol priodol, i leihau effaith y clefyd ataliadwy hwn ar blant."
Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod lleihad tebyg a pharhaus mewn pydredd dannedd ymhlith pob grŵp cymdeithasol rhwng 2004 a 2017.