Grŵp dethol i dderbyn Cymrodoriaethau Anrhydedd
13 Gorffennaf 2015
Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, darlledwraig enwog, nofelydd Prydeinig sydd wedi ennill sawl gwobr ac un o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus manwerthu yn y DU ymysg y rhai gaiff eu hanrhydeddu yn ei seremonïau graddio blynyddol yr wythnos yma (13 - 17 Gorffennaf, 2015).
Bydd capten tîm rygbi Cymru Sam Warburton, yn ymuno â'r ddarlledwraig Susanna Reid, sylfaenydd JoJo Maman Bébé, Laura Tenison MBE a'r nofelydd Prydeinig, Philippa Gregory i dderbyn yr anrhydeddau, sy'n cael eu dyfarnu i unigolion sydd wedi cael cydnabyddiaeth ragorol yn eu maes.
Bydd pum ffigwr blaenllaw pellach o feysydd yn cynnwys y celfyddydau, datblygiad rhyngwladol a gwyddoniaeth hefyd yn derbyn Cymrodoriaethau. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfarwyddwr opera David Pountney; sylfaenydd Africaid Marcus McGilvray; y biolegydd Anne Glover CBE; Prif Swyddog Gweithredol Stonewall Ruth Hunt ac Is-Lywydd Gweithredol ar gyfer Shell, Ceri Powell.
Bydd Sam Warburton yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gydnabod ei lwyddiannau chwaraeon rhagorol. Mae'r rhain yn cynnwys bod y capten tîm rygbi Cymru gyda'r mwyafrif o gapiau, a'r ail ieuengaf mewn hanes.
Mae Susanna Reid, a ddechreuodd ar ei gyrfa ddisglair mewn newyddiaduraeth yn 1993 pan hyfforddodd yn Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, yn cael ei chydnabod am ei chyfraniad i ddarlledu.
Un arall sy'n cael ei anrhydeddu yw Philippa Gregory, a alwyd yn 'frenhines ffuglen hanesyddol Prydain' am ei nofelau sydd wedi ennill sawl gwobr, yn cynnwys The Other Boleyn Girl. Bydd hi'n derbyn Cymrodoriaeth am ei chyfraniad i lenyddiaeth.
Caiff Laura Tenison MBE, ei chydnabod am ei rôl mewn diwydiant. Mae ei brand mam a'i baban, JoJo Maman Bébé wedi tyfu i fusnes gyda throsiant o £50m a 700 o weithwyr.
Bydd mwy na 6,000 o fyfyrwyr yn graddio yn y seremonïau eleni, a bydd tua 30,000 o bobl yn cael eu croesawu i Gaerdydd ar gyfer y dathliadau. Mae'r digwyddiad yn un o'r rhai mwyaf yng nghalendr y Brifysgol a bydd y seremonïau yn cael eu darlledu'n fyw yn ardal yr Aes, Caerdydd, yn ogystal â'u ffrydio ar wefan y Brifysgol.
Y Cymrodyr er Anrhydedd am 2015
Laura Tenison
Laura Tenison yw Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr JoJo Maman Bébé, brand 'boutique' mam a'i baban sy'n arwain yn y DU. Mae ei chwmni wedi tyfu'n organig o gychwyn busnes yn 1993 i drosiant cyfredol o £50M a 700 o weithwyr. Mae'n cael ei redeg gyda chod ymddygiad moesol llym; gan roi pobl a'r blaned uwchben elw. Ar hyn o bryd mae Laura a'i thîm yn gweithio ar y twf allforio a chanolfan ddosbarthu newydd wedi'i sefydlu yn y UDA er mwyn cyflawni nifer cynyddol o archebion i'r Unol Daleithiau. Mae Laura yn ymddiriedolwr ymarferol yr elusen cwmni Nema, sy'n gweithio i leddfu tlodi ymysg plant yn Affrica, mae'n fentor rheolaidd i bobl fusnes eraill ac yn rhedeg menter amgylcheddol sy'n gweithio i ailgylchu dillad plant bach wedi'u gwisgo ar gyfer eu dosbarthu gan Barnardos, gan arbed hyd at 50,000 o ddillad o safleoedd tirlenwi a helpu'r rhai sydd mewn angen yn y DU. Mae Laura wedi ennill nifer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Menyw Busnes y Flwyddyn Veuve Clicquot ac MBE am wasanaethau i ddiwydiant.
Susanna Reid
Mae Susanna Victoria Reid yn newyddiadurwraig a chyflwynydd sy'n fwyaf adnabyddus fel cyd-gyflwynydd BBC Breakfast o 2003 tan iddi adael yn gynnar yn 2014. Mae hi ar hyn o bryd yn cyd-gyflwyno rhaglen 'Good Morning Britain' ar sianel deledu ITV. Astudiodd Wleidyddiaeth, Athroniaeth a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Bryste (1989-1992), lle bu'n olygydd 'Epigram', papur newydd myfyrwyr y Brifysgol. Wedi hynny astudiodd Diploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Darlledu o Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.
Dechreuodd ei gyrfa yn BBC Radio Bristol, ac yna daeth yn ohebydd ar gyfer Radio 5 Live, yn ogystal ag yn gynhyrchydd. Yna, ymunodd â BBC News 24, lle y treuliodd ddwy flynedd fel gohebydd. Daeth yn ohebydd ar gyfer Breakfast News yn 1998 a daeth yn un o'r prif gyflwynwyr ar BBC Breakfast o 2010-2014. Mae Susanna'n gyfrannwr rheolaidd i Media Trust, yr elusen sy'n cysylltu elusennau eraill i'r diwydiant cyfryngau. Mae wedi cynnal digwyddiadau ar gyfer Ymddiriedolaeth Myotubular a Chelfyddydau Gwirfoddol Lloegr.<
Sam Warburton
Mae Sam yn chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru. Mae e'n chwarae rygbi rhanbarthol i'r Gleision Caerdydd a chafodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 2009. Mae wedi mynd ymlaen i ennill 54 o gapiau dros Gymru. Ym mis Mehefin 2011 cafodd ei enwi fel capten Cymru yn erbyn y Barbariaid, ac yn dilyn hynny yn Awst 2011 cafodd ei enwi yn gapten Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2011, yn 22 mlwydd oed.
Sam oedd Capten y Llewod ar eu taith buddugol i Awstralia yn 2013. Mae e'n dal y record am y mwyafrif o gapiau dros Gymru fel capten gan arwain yr ochr ar 35 achlysur. Mae Sam yn noddwr Canolfan Ganser Felindre.
Philippa Gregory
Roedd Philippa Gregory yn hanesydd a llenor sefydledig pan ddarganfu ei diddordeb yng nghyfnod y Tuduriaid ac ysgrifennodd y nofel The Other Boleyn Girl, a wnaed i mewn i ddrama deledu a ffilm fawr. Yn awr, 14 nofel yn ddiweddarach, mae hi'n dychwelyd at y Tuduriaid gyda chweched gwraig Harri'r VIII, Kateryn Parr. Diddordeb mawr arall Philippa yw'r elusen a sefydlodd bron 20 mlynedd yn ôl: Gardens for The Gambia. Mae'r elusen wedi codi arian ar gyfer tua 200 o ffynhonnau mewn ysgolion cynradd y wlad Affricanaidd sych a thlawd iawn hon. Mae miloedd o blant ysgol wedi gallu dysgu garddio marchnad a thyfu bwyd i'w fwyta yn y gerddi ysgol sy'n cael eu dyfrio gan y ffynhonnau.
Mae'r elusen hefyd yn darparu ffynhonnau ar gyfer gerddi ar y cyd i fenywod ac ar gyfer unig goleg amaethyddol Gambia yn Njawara. Graddiodd Philippa o Brifysgol Sussex gyda gradd mewn Hanes, a derbyniodd PhD mewn Hanes yn llenyddiaeth y 18fed ganrif o Brifysgol Caeredin. Yn 2009 cafodd ddyfarniad Alumna y Flwyddyn gan Brifysgol Caeredin. Mae hi hefyd yn adolygu ar gyfer The Washington Post, yr LA Times, ac ar gyfer papurau newydd y DU, ac yn ddarlledwr cyson ar y teledu a'r radio. Mae hi'n postio'n rheolaidd i'w llu o ddilynwyr ar Facebook a Twitter.
Ruth Hunt
Penodwyd Ruth Hunt yn Brif Weithredwr Stonewall ym mis Awst 2014, ar ôl gweithio mewn swyddi uwch yn y sefydliad ers 2011. Mae hi wedi llwyddo i arwain datblygiad arloesol allbynnau polisi, ymgyrchu ac ymchwil Stonewall, gan gynnwys ei waith i fynd i'r afael â bwlio homoffobaidd mewn ysgolion, ymyriadau effeithiol i wella iechyd pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol a rhaglenni datblygu arweinyddiaeth enwog Stonewall.
Ers cymryd yr arweinyddiaeth, mae Ruth wedi ymrwymo i ddod â Stonewall hyd yn oed yn ddyfnach i mewn i gymunedau, gan ymgysylltu â grwpiau o wahanol ethnigrwydd, crefydd a daearyddiaeth - yn y DU a thramor. Mynychodd Ruth Goleg St. Hilda, Rhydychen lle bu'n astudio Saesneg ac fe'i hetholwyd yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr Rhydychen. Yn 2014, cafodd Ruth ei phleidleisio'n wythfed person LHDT (LGBT) mwyaf dylanwadol ym Mhrydain yn Rhestr Rainbow yr Independent.
Dr Ceri M Powell
Daw Ceri o Sir Benfro. Graddiodd gyda BSc. mewn Daeareg o Brifysgol Lerpwl, a gyda PhD mewn Daeareg Strwythurol o Brifysgol Cymru (Caerdydd). Ymunodd Ceri â Shell yn 1990, ac mae wedi gweithio fel geowyddonydd yn y DU, Angola, Malaysia, yr Iseldiroedd, a'r Emiraethau Arabaidd Unedig.
Yn 2009 apwyntiwyd hi'n Is-Lywydd Gweithredol Exploration for Shell, yn goruchwylio holl agweddau technegol archwilio'r cwmni ac yn atebol am weithrediadau archwilio a chyfleoedd busnes newydd yn Ewrop, Affrica, y Dwyrain Canol, Rwsia, Asia ac Awstralia. Mae'n aelod gweithgar o Fwrdd Ymgynghorol mawreddog rhaglen y Cenhedloedd Unedig Ynni Cynaliadwy i Bawb, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Yn 2014 cafodd Ceri Ddoethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth o Brifysgol Heriot-Watt am wasanaethau i Wyddorau'r Ddaear. Ers 2014 mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Carillion PLC ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Bwrdd Cynaliadwyedd. Mae hi'n byw yn Yr Hag yn Yr Iseldiroedd, ac mae ganddi hefyd gartref yn y Cotswolds lle mae'n arddwr brwd sy'n arbenigo mewn perlysiau meddygol. Fel un o'r prif fenywod yn y Diwydiant Ynni heddiw, mae Ceri wedi ennill yr anrhydedd o fod ar y rhestr Fortune Top 50 o'r Menywod mwyaf pwerus mewn Busnes Rhyngwladol, ddwywaith yn 2013 ac eto yn 2014. Mae hi wedi'i rhestru ar hyn o bryd yn Rhif 21.
Marcus McGilvray
Magwyd Marcus McGilvray yn Sir Fynwy a hyfforddodd yn Llundain fel Nyrs Arbenigol HIV. Bellach yn byw yn KwaZulu Natal, De Affrica, Marcus yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Africaid - Whizzkids United, cwmni dielw sy'n darparu gwasanaethau iechyd, addysg a grymuso i bobl ifanc dan anfantais. Mae mwy na 20 o raglenni yn ffurfio WhizzKids United (i gyd wedi'u cynllunio gan Marcus) gan gynnwys iechyd rhywiol ac atgenhedlu, atal HIV a thriniaeth, gofal a chymorth OVC, grymuso merched a chynghrair pêl-droed i'r ddau ryw i gyd yn rhedeg o Academi Iechyd WhizzKids United.
Yn y tair blynedd diwethaf mae mwy na 35,000 o bobl ifanc rhwng 12 a 20 oed ar draws Affrica wedi defnyddio gwasanaethau Africaid. Mae'r Athro Bruce Walker, ymchwilydd blaenllaw o HIV/Aids yn Ysgol Feddygol Harvard yn disgrifio Whizzkids fel "un o'r rhaglenni atal HIV mwyaf trawiadol a welais erioed." Yn 2010 a 2102, cymeradwywyd Whizzkids United gan Gynghorydd Arbennig y Cenhedloedd Unedig i'r Ysgrifennydd Cyffredinol ar gyfer Datblygu Chwaraeon a Heddwch. Gwnaed Marcus yn Brif Ghanaidd yn 2013 i anrhydeddu ei gyfraniad i'r gymdeithas Affricanaidd.
David Pountney
Enillodd David Pountney ei enw fel cyfarwyddwr rhyngwladol gyda'i gynhyrchiad o Katya Kabanova yng Ngŵyl Wexford 1972. Rhwng 1975 a 1980, roedd yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau ar gyfer Opera'r Alban. Roedd cynyrchiadau yno yn cynnwys cylch Janáček mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru. Cyfarwyddodd bremière y byd Toussaint gan David Blake yn 1977 (ENO) ac aeth ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau ENO yn 1980, gan gyfarwyddo dros 20 o operâu. Mae wedi cyfarwyddo nifer o berfformiadau cyntaf y byd, gan gynnwys tri gan Peter Maxwell Davies ac wedi cyfieithu operâu i'r Saesneg o'r Rwseg, Tsieceg, Almaeneg ac Eidaleg.
Fel cyfarwyddwr llawrydd o 1992 bu'n gweithio'n gyson yn Zurich, yn Opera'r Wladwriaeth yn Fienna, Bayerische Staatsoper, yn ogystal â thai opera yn America a Siapan, ac yn y DU mae ganddo gysylltiad hirsefydlog gydag Opera North. Derbyniodd fedal Janáček am ei gylch Janáček yng Nghymru a'r Alban, a medal Martinů am ei gynyrchiadau o Julietta a Greek Passion (Opera North a Gŵyl Bregenz).
Mae ei gynyrchiadau wedi ennill gwobr Olivier ddwywaith. Mae ei gyflawniadau diweddar yn cynnwys Saul og David yn Copenhagen; The Passenger (Houston, Efrog Newydd a Chicago); Kommilitonen, ei drydedd opera a ysgrifennwyd ar y cyd â Peter Maxwell Davies (Yr Academi Gerdd Frenhinol a pherfformiad cyntaf yr Unol Daleithiau yn Ysgol Juilliard, Efrog Newydd) . Yn ogystal cyfarwyddodd opera newydd Philip Glass, Spüren der Verirrten, ar achlysur agor tŷ opera newydd yn Linz. Enillodd y Wobr Schickaneder ar gyfer y cynhyrchiad opera gorau yn 2013, a Die Zauberflöte ar gyfer y 'llwyfan llyn' yn Bregenz, lle'r oedd yn arolygwr o 2003 - 13.
Ers 2011 mae wedi bod yn Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n CBE, Chevalier yn yr Ordre des Arts et Lettres Ffrengig ac mae ganddo'r Cavalier's Cross o Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl a dyfarnwyd yr Ehrenkreuz des Bundes Österreich iddo yn 2014. Yn ddiweddar, enillodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gydnabod ei gyfraniad fel artist ac arweinydd diwylliannol.
Yr Athro Y Fonesig Anne Glover CBE
Mae gan Anne BSc mewn Biocemeg o Gaeredin a PhD mewn Microbioleg Moleciwlaidd o Gaergrawnt. Mae hi wedi dilyn gyrfa mewn ymchwil wyddonol ym Mhrifysgol Caeredin ac mae ei hymchwil wedi bod yn amrywiol, gan gynnwys astudio sut mae proteinau yn cael eu cyfeirio at y lleoliad cywir o fewn ein celloedd, amrywiaeth a swyddogaeth y boblogaeth microbaidd mewn pridd, datblygiad synwyryddion biolegol (biosynhwyryddion) i ganfod llygredd amgylcheddol ac yn fwy diweddar, sut yr ydym yn ymateb i straen ar y lefel foleciwlaidd.
Yn 2008 fe'i gwnaed yn Fenyw o Gyflawniad Eithriadol mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET). Mae wedi gweithio'n galed i godi proffil menywod mewn SET i sicrhau nid yn unig bod menywod yn cael eu recriwtio i mewn i yrfaoedd mewn SET ond eu bod yn cael eu cefnogi i aros yn y proffesiwn yn ystod eu gyrfaoedd. Mae Anne wedi hyrwyddo cyfathrebu gwyddoniaeth ac wedi ymddangos ar y BBC a theledu rhyngwladol a llawer o raglenni radio byd-eang. Yn 2009, dyfarnwyd iddi'r CBE gan y Frenhines i gydnabod ei gwasanaethau i wyddorau amgylcheddol.
Anne oedd y Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf i Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd (2012-2015). Cyn hynny, hi oedd y Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf ar gyfer yr Alban (2006-2011). Ar hyn o bryd mae hi'n Is-Brifathro Materion Allanol a Deon ar gyfer Ewrop ym Mhrifysgol Aberdeen. Daeth yr Athro Glover yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) am wasanaethau i Wyddoniaeth yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2015.