Gwobr o fri ar gyfer gwaith academydd gyda phobl ifanc
21 Mehefin 2018
Mae ymchwilydd Prifysgol Caerdydd sydd wedi galluogi plant a phobl ifanc i siarad yn agored am berthnasoedd ac addysg rhywioldeb, wedi ennill gwobr genedlaethol.
Enillodd yr Athro Astudiaethau Plentyndod, Emma Renold, £10,000 am Effaith Ragorol mewn Cymdeithas yng Ngwobr Dathlu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) 2018.
Mae’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol lle mae wedi cynnal ymchwil sydd wedi ysgogi pobl ifanc i weithredu ar faterion sy’n ymwneud a rhywedd a rhywioldeb. Mae hefyd wedi cyfrannu at greu deddfwriaeth newydd yng Nghymru ym maes trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol yn ogystal â llunio’r broses o drawsnewid addysg rhyw a pherthnasoedd yn sylfaenol yn ysgolion Cymru, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams, fis diwethaf.
Yr Athro Renold oedd cadeirydd panel arbenigol Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (Cymru) a ddaeth i’r casgliad bod Addysg Rhyw a Pherthnasoedd (ARHAPH) mewn ysgolion yn rhy fiolegol ac yn rhy negyddol, a bod dim digon o sylw’n cael ei roi i hawliau, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, emosiynau a pherthnasoedd. Arweiniodd y canfyddiadau hyn y panel i argymell trawsnewid y cwricwlwm yn y maes hwn yn llwyr, gan gynnwys newid enw a llwybrau addysgu proffesiynol. O 2022 ymlaen, caiff Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (RSE) newydd gynhwysol a chyfannol, sy’n galluogi, ei hymgorffori yng nghwricwlwm Cymru ar sail statudol. Caiff hefyd ei chefnogi gan lwybr dysgu proffesiynol clir ar gyfer athrawon ac ymarferwyr.
Mae hefyd wedi creu canllaw arloesol ar y cyd sy’n helpu pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd a thrais rhywiol mewn ysgolion a chymunedau lleol. Mae AGENDA: A Young People’s Guide to Making Positive Relationships Matter yn becyn ar-lein wedi’i gynhyrchu mewn partneriaeth â phobl ifanc, sy’n eu cefnogi i leisio eu barn yn greadigol ac yn ddiogel ar anghyfiawnderau sy’n ymwneud â rhywedd a rhyw, gan ddefnyddio dulliau arloesol fel y celfyddydau gweledol, barddoniaeth, dawns a theatr.
Dros y flwyddyn gyntaf ers ei lansio, defnyddiwyd y pecyn gan 1,400 o bobl ifanc, 1,000 o ymarferwyr, 500 o athrawon a 100 o academyddion. Hyfforddwyd deugain o bobl ifanc yn llysgenhadon ieuenctid AGENDA a rhannodd rhai o’r rheini’r adnodd pecyn gyda’r Rhwydwaith Ewropeaidd o Ombwdsbobl ar gyfer Plant, ac ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Cyfeirwyd i raddau helaeth at ymchwil yr Athro Renold ar atal trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol, gan Lywodraeth Cymru yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), a basiwyd yn 2015. Cyn y Ddeddf, helpodd i hwyluso’r Ymgyrch Addewid i Bobl Ifanc yng Ngrŵp Gweithredu Trais yn erbyn Menywod Cymru a Citizens Cymru, lle ysgrifennodd dros 1,000 o fyfyrwyr at Aelodau’r Cynulliad yn amlygu rôl hanfodol addysg wrth atal y math yma o drais. Yn rhan o’r ymgyrch, creodd 40 o bobl ifanc gardiau San Ffolant ar gyfer pob un o 60 o Aelodau’r Cynulliad, gyda phob carden yn cynnwys sylw mewn llawysgrifen gan fyfyrwyr yn dweud pam mae angen addysg perthnasoedd iach arnynt.
A hithau’n aelod o Grŵp Cynghori VAWDASV Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, helpodd i ddatblygu ymgyrch #thisisme Llywodraeth Cymru er mwyn herio stereoteipiau niweidiol ynghylch rhywedd sydd wrth wraidd trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol.
Ar ôl casglu’r wobr yn Llundain ddoe, dywedodd yr Athro Renold: “Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer iawn. Mae’n cydnabod, gwerthfawrogi a dathlu’r modd y mae ffeministiaid croestoriadol, rhyng-genedlaethol ac arbrofol, ysgolheictod ac ymarfer creadigol a chyfranogol, wedi’i saernïo mor aml yn y man cyffiniol lle mae ymchwil, ymgysylltu ac ymgyrchu’n dod ynghyd, yn gallu llywio’r broses o lunio polisïau ac ymarfer, ac yn parhau i wneud hynny.
“Mae llunio pecyn AGENDA newydd y bobl ifanc a’r weledigaeth newydd ar gyfer cwricwlwm addysg perthnasoedd a rhywioldeb statudol ar gyfer Cymru, er enghraifft, yn deillio o bartneriaethau hirdymor helaeth gydag ysgolion, grwpiau ieuenctid, asiantaethau’r trydydd sector, Llywodraeth Cymru, a chymuned fywiog o ffeministiaid ac ymgyrchwyr-academyddion queer ar draws y byd. Effaith dros gyfnod maith a graddol yw hon, ac mae wedi cymryd 20 mlynedd.
Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rwyf wrth fy modd bod ymchwil arloesol yr Athro Renold – sy’n ymdrechu i roi llais i blant a phobl ifanc ac wedi arwain at newidiadau ysgubol i’r gyfraith a pholisïau yng Nghymru – wedi cael ei gydnabod gan yr ESRC. Mae ei gwaith yn enghraifft wych o’r modd y gall academyddion helpu i lunio partneriaethau a chydweithio sy’n dwyn newid cadarnhaol i gymdeithas. Hoffwn ei llongyfarch ar ei llwyddiant.”
Ychwanegodd yr Athro Renold: “Dros y saith mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn creu ymchwil, ymgyrchoedd, digwyddiadau ymgysylltu, fforymau a’r adnodd AGENDA gyda phobl ifanc, i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed a bod camau’n cael eu cynnal ar sail hynny.
“Mae ein stori’n dangos yr hyn sy’n bosibl pan mae plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i fod yn rhan o brosesau penderfynu ac yn llywio arferion sy’n dwyn newid. Maent yn mynd i’r afael â materion sy’n rhy aml yn rhoi gormod o bwyslais ar unigolion, yn cael sylw gwael, eu symleiddio a’u distewi.”