Mannau Cynaliadwy yn ennill aur yng ngwobrau Effaith Gwyrdd!
15 Mehefin 2018
Mae'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy wedi ennill aur yn y gwobrau Effaith Gwyrdd mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 12 Mehefin 2018.
Rhaglen newid ymddygiad gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yw Effaith Gwyrdd, sy'n helpu staff a myfyrwyr i ddeall cynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol ac yn helpu i gyflwyno newidiadau drwy gamau gweithredu gyda thystiolaeth.
Mae timau sy'n cynnwys staff a myfyrwyr yn cwblhau gwahanol feini prawf yn eu hamgylchedd gwaith ac yn eu nodi yn eu llyfrau gwaith electronig, gan ganolbwyntio ar effeithiolrwydd o ran ynni, gwastraff ac ailgylchu, teithio, lles, ymgysylltu â'r gymuned a bioamrywiaeth, a rhai themâu gwobrau arbenigol.
Mae cynllun y wobr wedi'i strwythuro i gynnig gwobrau Efydd, Arian ac Aur sy'n cynnwys codi ymwybyddiaeth, ymgysylltiad, a chamau ehangach drwy ddyfeisgarwch a chreadigrwydd.
Eleni cafwyd y nifer fwyaf erioed o dimau'n cymryd rhan, gyda 43 yn cyflwyno o ystod eang o ddisgyblaethau ar draws y campws ar gyfer amrywiaeth o wobrau.
Yn ddiweddar lansiodd Prifysgol Caerdydd Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol newydd, un o'r Strategaethau Galluogi o'r Ffordd Ymlaen 2018-2023. Gweledigaeth y Strategaeth yw i'r Brifysgol adeiladu dyfodol cynhwysol, cynaliadwy a chadarn i'n cymuned ac anelu tuag at esgor ar fuddiannau amgylcheddol i Gaerdydd a Chymru yn ogystal â'r gymuned ehangach.