Awdurdod ym maes Brexit ac amaethyddiaeth yn trafod gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
30 Mai 2018
Bu’r Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, yn trafod materion Brexit ac amaethyddiaeth gerbron Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Llun 21 Mai 2018.
Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a’r heriau yr ydym yn eu hwynebu yn dilyn Brexit yn y sector amaethyddiaeth yng Nghymru.
Mae’r Athro Terry Marsden yn ymchwilio gwyddor gymdeithasol ryngddisgyblaethol a meysydd polisi cymhwysol daearyddiaeth wledig, cymdeithaseg wledig, cymdeithaseg amgylcheddol, daearyddiaeth a chynllunio. Mae ei waith yn amrywio o waith damcaniaethol gwreiddiol yn y maes, hyd at ddadansoddiad empirig ac effeithiau a dadansoddiadau polisi sy’n dod i’r amlwg.
Mae ei ymchwil yn cynnwys gwaith sy’n amrywio’n eang ar ailstrwythuro sosio-economaidd amaethyddiaeth; damcaniaethau ac ymchwiliadau empirig o ddatblygu trefol; dadansoddiad o gadwyni a rhwydweithiau bwyd amaethyddol; a sylwebaeth feirniadol yn y meysydd sy’n dod i’r amlwg, cymdeithaseg amgylcheddol a chynllunio amaethyddol.
Wrth drafod gerbron y Pwyllgor – a gadeirir gan David Rees AC – roedd yr Athro Marsden yn awyddus i danlinellu pwysigrwydd cymryd camau rhagweithiol i ddatblygu polisi ar gyfer materion gwledig ac amaethyddol yng Nghymru.
Yn ôl yr Athro Marsden: “Rwyf o’r farn bod angen i’r Cynulliad fynd ar unwaith i wneud cynnydd ar ddatblygu set o bolisïau integredig rhwng bwyd, amaethyddiaeth a’r amgylchedd o dan nawdd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn ffodus ddigon yng Nghymru bod gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Deddf yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi’u rhoi ar waith gennym cyn Brexit. Dyma gyfle euraidd i ddatblygu polisi integredig.”
Ychwanegodd yr Athro Marsden: “Mae’n rhaid i ni fod yn rhan o’r hyn a fydd, yn fy marn i, yn angenrheidiol – fframwaith ledled y DU ar gyfer bwyd, amaethyddiaeth a’r amgylchedd, ac rwy’n credu y dylem fod yn rhoi pwysau ar Gymru i fod yn aelod hynod ragweithiol o fframwaith ledled y DU a fframwaith amgylcheddol sy’n dangos arwyddocâd adnoddau naturiol yng Nghymru ar gyfer y DU. Mae hynny’n berthnasol ar gyfer bwyd yn ogystal. Mae’r diwydiant bwyd yng Nghymru wedi’i integreiddio i raddau helaeth â gweddill y DU, felly ni fyddai creu ffin economaidd ffug rhwng Cymru a gweddill y DU yn realistig.”
Cafwyd trafodaeth bell-gyrhaeddol yn ystod y sesiwn, gyda chwestiynau aelodau’r pwyllgor yn cyffwrdd ar feysydd yn cynnwys: materion iechyd cyhoeddus; hanes polisi bwyd; paratoi cynllun bwyd i Gymru; a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag ymwahanu polisïau.
Mae gan Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy enw da yn rhyngwladol am gynnal ymchwil perthnasol a chadarn a ddefnyddir gan wneuthurwyr polisi ar draws Cymru, y DU ac ymhellach, i gefnogi llunio polisi ar sail tystiolaeth.
Mae trawsgrifiad llawn o’r sesiwn i’w gael ar-lein.