Gwobr Effaith Werdd
15 Mehefin 2018
Mae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd wedi cael statws efydd yng nghynllun Effaith Werdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ar gyfer ei swyddfeydd a'i labordai.
Nod y cynllun Effaith Werdd yw dod â myfyrwyr a staff ynghyd i gampysau, cwricwla, a chymunedau gwyrdd i newid ymddygiadau a gwneud newidiadau cynaliadwy ystyrlon.
Llwyddodd yr Ysgol i ennill gwobr Effaith Werdd efydd drwy roi ddewisiadau amgen cynaliadwy ar waith a chodi ymwybyddiaeth ohonynt. Cafodd staff a myfyrwyr PhD eu hannog i brynu cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio drwy ddefnyddio system talebau yn yr Ysgol. Fe wnaeth y staff godi ymwybyddiaeth o sut i ddefnyddio ffrydiau ailgylchu a gwastraff ar gyfer swyddfeydd a labordai. Tynnwyd sylw hefyd at ddulliau amgen o deithio i'r Brifysgol ac o'i chwmpas, megis rhannu ceir a seiclo.
Dywedodd yr Athro Ian Hall, Pennaeth Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd: "Mae'r tîm Effaith Werdd wedi gwneud ymdrech enfawr dan arweinyddiaeth Dhobasheni Newman a Jen Pinnion. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran! Dyma'r tro cyntaf i'r Ysgol gymryd rhan yn y rhaglen, ac rwy'n gwybod bod y tîm eisoes yn cynllunio i gyflwyno ar gyfer gwobr arian neu aur y flwyddyn nesaf. Mae hon yn ymgyrch bwysig y gall yr Ysgol gyfan (staff a myfyrwyr) gymryd rhan ynddi, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu Ysgol fwy cynaliadwy at y dyfodol."
Mae'r Ysgol hefyd wedi creu cyfrif Effaith Werdd ar Twitter i hyrwyddo arferion da a mentrau i leihau'r defnydd o blastig yn y gwaith a'r cartref (@CU_GreenEarth).