Athro Sefydliad Catalysis Caerdydd ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines
13 Mehefin 2018
Mae’r Athro Graham Hutchings, Athro Regius Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd, wedi cael CBE am ei waith cemeg ac arloesi yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines.
Mae’r Athro Hutchings, sy’n un o gymeriadau amlycaf y byd ym maes catalysis, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gymdeithas trwy nifer o ddarganfyddiadau arloesol sydd wedi cael effaith wirioneddol ar ein bywydau pob dydd.
Darganfyddiad mwyaf nodedig yr Athro Hutchings yw bod aur yn gatalydd rhyfeddol ar gyfer rhai adweithiau, yn fwyaf penodol wrth gynhyrchu finyl clorid, prif gynhwysyn PVC, sef y plastig mwyaf cyffredin a ddefnyddir yn y byd. O ganlyniad uniongyrchol i’w waith ymchwil, mae catalydd aur bellach yn cael ei weithgynhyrchu gan gwmni cemegion y Deyrnas Unedig, Johnson Matthey, mewn cyfleuster a adeiladwyd at y diben yn Tsieina - y tro cyntaf ers dros 50 mlynedd i’r broses o lunio catalyddion gael ei drawsnewid yn llwyr er mwyn cynhyrchu nwydd cemegol.
Yn fwy pwysig, mae’r catalydd aur wedi disodli catalydd mercwri gwenwynig a ddefnyddid ar gyfer yr adwaith hwn yn flaenorol. Roedd y catalydd hwnnw nid yn unig yn hynod niweidiol i’r amgylchedd, ond hefyd yn cael ei restru fel bygythiad i iechyd dynol gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
I dystio i effaith ymchwil yr Athro Hutchings, mae wedi cael nifer o anrhydeddau a gwobrau proffil uchel ar hyd ei yrfa. Yn 2009 fe'i etholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol – yr anrhydedd uchaf ar gyfer gwyddonydd yn y Deyrnas Unedig – a chafodd Fedal Davy y Gymdeithas Frenhinol, anrhydedd nodedig, yn 2013.
I dystio i’w enw da academaidd ar y llwyfan rhyngwladol, enwyd yr Athro Hutchings fel Ymchwilydd Llawryfog gan Thomson Reuters yn 2012 – dangosydd ar gyfer ymgeiswyr sy’n debygol o dderbyn Gwobr Nobel yn eu priod feysydd. Yn 2014 rhestrwyd yr Athro Hutchings hefyd gan Thomson Reuters fel un o'r ymchwilwyr y cyfeiriwyd fwyaf ato yn y byd, ac yn 2016 fe’i rhestrwyd fel un o 'feddyliau gwyddonol mwyaf dylanwadol' y byd gan yr un sefydliad.
Mae’r Athro Hutchings, fel Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd, wedi creu canolfan ragoriaeth sydd ymhlith y goreuon yn y byd ac wedi helpu i ddod â chyfoeth o arbenigedd i Gymru a'r Deyrnas Unedig. Mae arbenigedd, cyfleusterau a seilwaith y Sefydliad wedi creu prosesau catalytig newydd gyda chymorth partneriaid o fyd diwydiant, ac wedi hybu catalysis fel technoleg gynaliadwy i’r 21ain ganrif.
Cyfrannodd arweinyddiaeth yr Athro Hutchings ar y CCI at ddyfarnu cadair athro Regius i Ysgol Gemeg Prifysgol Caerdydd gan ei Mawrhydi y Frenhines adeg ei phen-blwydd yn 90 oed. Hwn oedd y tro cyntaf i’r anrhydedd hon gael ei rhoi i Brifysgol yng Nghymru, a dim ond 14 cadair Regius a roddwyd ers teyrnasiad y Frenhines Victoria.
Dywedodd yr Athro Damien Murphy, Athro Cemeg Ffisegol a Phennaeth yr Ysgol Gemeg, : "Rwy'n falch iawn bod yr Athro Hutchings wedi derbyn CBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i Gemeg ac Arloesedd. Dyma gydnabyddiaeth haeddiannol am ei holl gyflawniadau gwych a’i lwyddiannau yn y byd academaidd ac ym maes ymchwil yn ystod y 40 mlynedd diwethaf."