Cyrraedd uchelfannau tablau cynghrair y Guardian
7 Mehefin 2018
Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd yn dringo i’r 10 uchaf yn nhablau cynghrair pynciau prifysgolion y Guardian 2019.
Mae’r Ysgol yn y nawfed safle – gyda sgôr o 88.1 allan o 100 – ym maes pwnc Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol, mewn perthynas â’i rhaglenni BSc Daearyddiaeth (Ddynol) a BSc Daearyddiaeth (Ddynol) a Chynllunio.
Croesawyd y newyddion gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Paul Milbourne:
Ychwanegodd: “Er bod boddhad uchel ymysg ein myfyrwyr yn gyffredinol, nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau. Byddwn yn parhau i ddatblygu’r hyn a gynigiwn – gan gynnwys astudio rhyngwladol a chyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith proffesiynol – er mwyn gwella’r profiad i fyfyrwyr yma ym Mhrifysgol Caerdydd, a datblygu ein cymuned ddeinamig ac amrywiol ymhellach.”
Mae tablau cynghrair fesul pwnc y Guardian yn defnyddio naw o feini prawf gwahanol i gyfrifo sgôr allan o 100, gan gynnwys:
- pa mor fodlon yw’r myfyrwyr â’r cwrs, yr addysgu a’r adborth (drwy Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr);
- cymhareb nifer y myfyrwyr i staff;
- gwariant fesul myfyriwr;
- a, rhagolygon gyrfa.
Hanes hir o ragoriaeth
Mae gan yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio hanes hir a chyson o fodlonrwydd ymhlith ei myfyrwyr, yn ogystal â lefel uchel o gyflogadwyedd. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2017, 94% oedd lefel y bodlonrwydd yn gyffredinol, ac yn ôl yr Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) diweddaraf (2015-16), roedd 91% o raddedigion yn gyflogedig neu’n astudio ymhellach chwe mis ar ôl graddio.
Caiff rhaglenni israddedig yr Ysgol eu cydnabod am eu rhagoriaeth, ac maent i gyd wedi’u cymeradwyo gan gymdeithasau dysgedig neu gymdeithasau proffesiynol blaenllaw’r DU – mae’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn cydnabod yn swyddogol bod y cwrs BSc Daearyddiaeth (Ddynol) yn enghraifft o arfer da ym maes dysgu ac addysgu Daearyddiaeth; mae’r cwrs BSc Daearyddiaeth (Ddynol) a Chynllunio wedi’i gydnabod gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) ac mae’r cwrs BSc Cynllunio a Datblygu Trefol wedi’i gydnabod gan yr RTPI a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RCIS).