Tracio moch barfog Borneo
13 Mehefin 2018
Mae tracwyr uwch-dechnolegol wedi'u gosod ar foch barfog Borneo am y tro cyntaf, gan helpu i sicrhau dyfodol y rhywogaeth hwn sy'n agored i niwed.
Mae ymchwilwyr o Ganolfan Maes Danau Girang, cyfleuster ymchwil cydweithredol a reolir gan Brifysgol Caerdydd ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah, wedi rhoi coler GPS ar fochyn barfog yn Sabah am y tro cyntaf, fel eu bod yn cael cipolwg na welwyd ei debyg o’r blaen ar lwybrau mudo’r anifail hwn ar draws y drydedd ynys fwyaf yn y byd.
Mae fforestydd glaw Borneo yn cael eu darnio fwyfwy yn sgîl datgoedwigo a throi coedwig yn dir amaeth Gosodwyd y dechnoleg GPS arloesol ar fochyn benyw 65 cilogram yn Kinabatangan, fel bod biolegwyr cadwraeth a swyddogion bywyd gwyllt y llywodraeth yn gallu olrhain ei symudiadau wrth iddi newid cynefin.
Yn ôl Dr Benoit Goossens o Brifysgol Caerdydd sy’n Gyfarwyddwr ar Ganolfan Maes Danau Girang: "Dyma’r tro cyntaf i ni roi coler GPS ar fochyn barfog, rhywogaeth sydd o dan warchae’n gynyddol.
"Ers oesoedd, mae gyrroedd enfawr o foch barfog wedi crwydro ar draws ardaloedd eang, trwy goedwigoedd, afonydd a mynyddoedd Borneo, i ddod o hyd i fwyd. Ar hyd y ffordd, maent wedi cael eu hela, ac yn parhau i fod yn ffynhonnell bwysicaf cig gwyllt mewn rhai ardaloedd o Borneo.
"Er gwaethaf symudiadau syfrdanol y mochyn a’i arwyddocâd diwylliannol, ni wyddys bron dim am eu patrymau mudo."
Bydd yr wybodaeth a gesglir drwy’r coler GPS yn cynnig cliwiau pwysig am dynged y rhywogaeth, ac yn caniatáu i gadwraethwyr ddatblygu polisïau i amddiffyn moch barfog Borneo.
Dywedodd David Kurz, Prifysgol California Berkeley: Yn fy marn i, ble mae’r moch hyn yn symud a beth maent yn ei wneud ar hyd y ffordd yw un o’r dirgelion mawr sydd heb ei ddatrys yn ecoleg De-ddwyrain Asia."
Bydd y tîm o ymchwilwyr yn rhoi coleri ar ddeg mochyn barfog yn rhanbarth Kinabatangan yn Sabah, gyda’r nod o ddeall sut mae’r moch yn ymdopi wrth i bobl ddod i’w cynefin.
“Ers mis a hanner, rydyn ni wedi bod yn monitro ei symudiadau, ac wedi darganfod ei bod wedi aros mewn un ardal, yn ogystal â fforio mewn planhigfa palmwydd olew gerllaw unwaith neu ddwywaith yr wythnos i gael bwyd ychwanegol.
“Mae hyn o ddiddordeb i ni fel ymchwilwyr gan ein bod yn edrych i weld a yw moch barfog yn rhoi’r gorau i fudo pan fydd digonedd o fwyd fel palmwydd olew yn hwylus o fewn eu cyrraedd.
“Ond bydd angen sawl blwyddyn o waith ymchwil i gadarnhau hynny.
"Mae llu o fygythiadau i'r rhywogaeth hwn o foch gwyllt. Ond yn ffodus, mae gan yr anifeiliaid carismataidd ddisylw hyn dîm ymroddedig o ymchwilwyr ar eu hochr yn brwydro i’w hamddiffyn.
"Drwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddilyn yn ôl ei thraed, gallwn helpu i amddiffyn ei pherthnasau.
"Ond mae amser yn ein herbyn, gan fod y mochyn barfog eisoes yn cael ei ystyried yn rhywogaeth sy'n agored i niwed, a chredir bod y rhywogaeth a’i batrymau mudo yn diflannu cyn i gofnod priodol ohonynt gael ei lunio, hyd yn oed,” meddai Benoit.
Cefnogir y prosiect hwn gan y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol, Sefydliad Waitt, Rhaglen Myfyrwyr Fulbright yr UD, Sefydliad Cadwraeth Ocean Park, Hong Kong, Sefydliad yr Hedyn Mwstard, Sw ac Acwariwm Columbus, Cymdeithas Athronyddol America, Coleg Adnoddau Naturiol UC Berkeley, a Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol yr UD.