Penodi cwmni i godi adeilad pwysig i fyfyrwyr
12 Mehefin 2018
Mae cwmni wedi'i benodi i ymgymryd â cham adeiladu allweddol adeilad pwysig ym Mhrifysgol Caerdydd i fyfyrwyr yng nghanol Campws Cathays.
Penodwyd y cwmni adeiladu BAM i godi Canolfan Bywyd y Myfyrwyr fel rhan o'r cynllun uwchraddio mwyaf ar gampws y Brifysgol ers cenhedlaeth.
Bydd y Ganolfan, mewn partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr, yn darparu cartref newydd i'r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ac yn cynnig mannau astudio cymdeithasol ychwanegol, ystafelloedd ymgynghori, awditoriwm 550 sedd a mannau myfyrio tawel.
Mae'r Brifysgol yn trawsnewid y ffordd mae'n cefnogi bywyd myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl a lles.
Bydd y buddsoddiad yn golygu bod y gwasanaethau'n fwy hygyrch i fyfyrwyr lle bynnag y bônt.
Bydd cam adeiladu'r prosiect yn creu 18 o swyddi newydd, gan gynnwys prentisiaid, a bydd yn cefnogi o ddeutu 150 o swyddi contractwyr ar y safle.
Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Rwyf i'n falch iawn y bydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth gya BAM i adeiladu Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Bydd yr adeilad newydd yn gartref i amrywiol wasanaethau gan gynnwys iechyd a lles, cymorth astudio, paratoi at y dyfodol, rheoli arian a chyngor ar fyw yng Nghaerdydd.
Mae rhai o'r gwelliannau i wasanaethau eisoes ar waith, gan ganiatáu i fyfyrwyr elwa ar unwaith, cyn i'r Ganolfan gael ei chodi hyd yn oed.
Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau'n ddiweddarach eleni, a chaiff ei gwblhau yn 2020.
Roedd BAM wedi ymgymryd â'r gwaith galluogi ar y safle, ond bydd nawr hefyd yn adeiladu'r Ganolfan.
Dywedodd Craig Allen, Cyfarwyddwr Adeiladu BAM: "Mae gan BAM bartneriaeth hir a chynhyrchiol gyda Phrifysgol Caerdydd, ac mae wedi darparu dau adeilad o ansawdd byd-eang iddi o'r blaen.
Cynlluniwyd yr adeilad gan y penseiri arobryn Feilden Clegg Bradley Studios (FCB Studios) sydd wedi gwneud gwaith gydag adeiladau cyhoeddus proffil uchel.
Mae'r Brifysgol yn buddsoddi cyfanswm o £600m dros 10 mlynedd i wella safon ei champws, gan gynnwys buddsoddiad o £260m yn y profiad addysgu, dysgu a myfyrwyr.
Yn gynharach y mis hwncyhoeddwyd y bydd cytundeb i adeiladu’r rhan nesaf o Gampws Arloesedd y Brifysgol yn creu dros 60 o swyddi, prentisiaethau a lleoliadau.
Bydd Bouygues UK Limited, cwmni adeiladu blaenllaw sy’n hen law ar adfywio ardaloedd trefol, yn datblygu iard reilffordd segur yn ganolbwynt ar gyfer arloesedd.