Llwyddiant i fyfyriwr blwyddyn olaf ar restr fer Gwobr Caerdydd
30 Mai 2018
Ymgasglodd myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd i ddathlu blwyddyn fwyaf llwyddiannus Gwobr Caerdydd erioed ddydd Mawrth 8 Mai 2017.
Eleni cwblhaodd 300 o fyfyrwyr y rhaglen, sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol myfyrwyr, gan gyflawni 73,771 awr o weithgareddau allgyrsiol, y nifer uchaf erioed. Mae hyn yn gyfartaledd o 224 o oriau i bob myfyriwr, sy'n sylweddol uwch na'r isafswm o 70 awr sydd eu hangen i gyflawni’r Wobr.
Elin Arfon, myfyrwraig BA Cymraeg a Ffrangeg ar ei blwyddyn olaf, oedd un o'r rheiny i gwblhau'r Wobr eleni.
Defnyddiodd Elin y Wobr i ddatblygu ei hyder a manteisio ar amrywiaeth eang o gyfleoedd a dangosodd ddatblygiad sylweddol yn ei phortffolio. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys bod yn Llysgennad Iaith Myfyrwyr, tiwtor, Cynorthwyydd Iaith a chwblhau cyfnod o brofiad gwaith ym Mhatagonia (a gyllidwyd gan ysgoloriaethau Santander blynyddol Ysgol y Gymraeg). Yn sgil ei chyflawniadau cyrhaeddodd restr fer Myfyriwr y Flwyddyn Gwobr Caerdydd 2018.
Er nad enillodd Elin, sy'n graddio'r haf hwn, deitl Myfyriwr y Flwyddyn, mae wedi cael cynnig cyllid i ymgymryd â PhD yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd: "Mae Gwobr Caerdydd wedi bod yn gymorth enfawr i fi wrth ddatblygu fy hunanhyder a fy sgiliau cyflogadwyedd. Rwyf i wedi cael cyfle, drwy'r rhaglen, i fynychu gweithdai yn canolbwyntio ar ysgrifennu CV a sut i ymateb i gwestiynau mewn cyfweliad; ffug-gyfweliadau; a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol... a'r cyfan am ddim!"