Croesawu enillydd Gwobr Nobel i Gaerdydd
11 Mehefin 2018
Mae enillydd Gwobr Nobel, yr Athro Barry Barish, wedi ymweld â Phrifysgol Caerdydd yn arbennig i ddathlu lansio sefydliad ymchwil newydd sbon sy’n arbenigo mewn archwilio tonnau disgyrchiant.
Cyfarfu’r Athro Barish, a dderbyniodd Gwobr Nobel Ffiseg 2018, â staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, ac fe gyflwynodd ddarlith gyhoeddus yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Mae’r Athro Barish yn Athro Ffiseg yn Sefydliad Technoleg Califfornia a derbyniodd y Wobr Nobel – ochr yn ochr â Kip Thorne a Rainer Weiss – am ei gyfraniadau at Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LIGO) a’r canfyddiad cyntaf erioed o donnau disgyrchiant.
Ganol y 1990au, sefydlodd yr Athro Barish Brosiect Gwyddonol Cydweithredol LIGO, sy’n gonsortiwm o dros 1,000 o wyddonwyr o dros 80 o sefydliadau ar draws y byd. Mae'r grŵp yn cynnal arsyllfeydd sy’n chwilio am donnau disgyrchiant – crychau pitw mewn gofod-amser sy’n cael eu hallyrru gan ddigwyddiadau cosmig ffyrnig, megis gwrthdrawiad rhwng tyllau duon a sêr niwtron.
Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod hirsefydlog o LIGO ac wedi gwneud cyfraniadau hanfodol at sefydlu LIGO a chanfod tonnau disgyrchiant.
Gan ddefnyddio dau o synwyryddion yn yr Unol Daleithiau, canfyddodd LIGO donnau disgyrchiant yn y lle cyntaf yn 2016, a ddeilliodd o wrthdrawiadau dau dwll du oedd yn cylchynu ei gilydd dros 1.3 biliwn o flynyddoedd goleuni o'r ddaear. Ers hynny, mae LIGO wedi canfod chwe signal pellach o donnau disgyrchiant, gan gynnwys gwrthdrawiad rhwng dwy seren niwtron ym mis Awst 2017. Yn nghanol 2017, aeth synhwyrydd Advanced Virgo – sydd wedi’i leoli yn yr Eidal – ar-lein, a bydd mwy wrthi’n chwilio yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Wrth siarad cyn y digwyddiad yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, dywedodd yr Athro Barish: “Rydw i wedi ymweld â Chaerdydd sawl gwaith dros yr 20 mlynedd ddiwethaf ers i mi fod yn aelod o LIGO. Bu Caerdydd ynghlwm wrtho [LIGO] o gam cynnar iawn, yn enwedig o ran y ffenomenoleg – deall y wyddoniaeth y byddem yn ei gweld pe byddem yn [canfod tonnau disgyrchiant].
“Wrth i’r prosiect dyfu’n fwy real, dechreuodd pobl yma gynnwys astroffisegwyr – ac nid y rhai sy’n ymwneud â thonnau disgyrchiant yn unig – yn ogystal â dadansoddwyr data.
“Buom yn rhan o LIGO er mwyn cyrraedd nod arbennig – canfod tonnau disgyrchiant. Roedd llawer ohonom yn gwybod bod tonnau disgyrchiant yn bodoli, byddai’n fwy rhyfeddol pe na byddent. Yr her oedd gallu eu canfod.”
Gan adeiladu ar y cyfoeth o arbenigedd ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant newydd yn parhau i chwilio am signalau tonnau disgyrchiant yn rhan o LIGO, gyda phwyslais penodol ar ddatblygu modelau gwyddonol i echdynnu gwybodaeth astroffisegol a chosmolegol benodol o’r signalau hyn.
Bydd y sefydliad hefyd yn creu modelau damcaniaethol hynod o gywir o ffynonellau tonnau disgyrchiant, gyda phwyslais arbennig ar dyllau duon deuol.
“Rydym wrth ein boddau bod Barry yn gallu ymuno â ni i ddechrau’r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant,” dywedodd yr Athro Patrick Sutton, pennaeth y grŵp ymchwil yng Nghaerdydd. “Yn ogystal ag adeiladu ar ein hymdrechion presennol, rydym yn ymestyn ein hymdrechion i ddatblygu rhai o’r technolegau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol synwyryddion tonnau disgyrchiant, felly mae dyfodol cyffrous o'n blaenau.”