SeagrassSpotter
8 Mehefin 2018
Mae fersiwn newydd o ap a allai arwain at ddarganfyddiadau newydd am un o gynefinoedd y cefnforoedd nad yw'n cael digon o sylw – morwellt – wedi cael ei lansio gan Project Seagrass i gyd-fynd â Diwrnod Cefnforoedd y Byd (8 Mehefin).
Mae SeagrassSpotter yn galluogi pobl ledled y byd i helpu ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd ddeall a gwarchod morwellt.
Cafodd yr ap a'r wefan gysylltiedig seagrassspotter.org eu lansio'n wreiddiol yn 2017, ac mae'r ap bellach wedi cael ei ddiweddaru ac yn cynnwys llawlyfr cynhwysfawr am forwellt ledled y byd.
Hyd yma mae tua 300,000km2 o forwellt wedi cael ei fapio ledled y byd, ond mae arbenigwyr wedi amcangyfrif y gallai fod hyd at 4 miliwn km2 o forwellt.
Mae morwellt yn hanfodol ar gyfer cefnforoedd y byd, ac yn cefnogi cynhyrchiant un rhan o bump o bysgodfeydd y byd, ac mae'n hanfodol ar gyfer bioamrywiaeth.
Dywedodd Dr Leanne Cullen-Unsworth, o'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy a Project Seagrass: "Gyda SeagrassSpotter, gall selogion y cefnforoedd ledled y byd fod yn wyddonwyr dinesig sy'n cyfrannu at warchod y moroedd drwy ddefnyddio ffonau symudol. Rydym wedi llwyddo i wneud camau gwyddonol pwysig ymlaen yn y blynyddoedd diwethaf, ond maen nhw'n wynebu bygythiadau aruthrol o hyd ac nid oes digon o sylw'n cael ei roi iddynt yn rhyngwladol.
"Hyd yma, drwy SeagrassSpotter, rydym wedi casglu dros 1,000 o gofnodion o forwellt ledled y DU a gogledd Ewrop, ac rydym yn gobeithio cael 10,000 o gofnodion drwy'r fersiwn newydd o'r ap.
"Mae'r fersiwn newydd yn cynnwys y llawlyfr byd-eang cyntaf sy'n hawdd ei ddefnyddio ar gyfer adnabod morwelltoedd. Yn syml, gall defnyddiwr dynnu llun o forwellt rhynglanwol drwy'r ap, neu lanlwytho llun a dynnwyd gydag unrhyw gamera yn uniongyrchol i'r wefan. Yna, bydd gofyn i'r defnyddiwr nodi a disgrifio'r hyn mae wedi'i weld. Mae'r wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn deall iechyd y systemau hyn ledled y byd. Rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi fersiynau wedi'u cyfieithu o'r ap dros y flwyddyn nesaf."
Mae Seagrass Spotter ar gael yma.