Ysglyfaethwyr sy'n glanhau strydoedd
7 Mehefin 2018
Mae miliynau o anifeiliaid gwyllt yn cael eu lladd ar ffyrdd Prydain bob blwyddyn, ond gallai nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar y ffyrdd fod chwe gwaith yn uwch nag y tybiwyd yn wreiddiol.
Fe wnaeth ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd ymchwilio i anifeiliaid marw yn cael eu tynnu oddi ar ffyrdd yng Nghaerdydd, a chanfod y gallai nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar ein ffyrdd fod gryn dipyn yn uwch na'r niferoedd mewn arolygon, oherwydd ysglyfaethwyr sy'n glanhau'r strydoedd.
Dywedodd yr ymchwilydd PhD Amy Williams Schwartz, o Brifysgol Caerdydd: "Gall rhannu a newid cynefinoedd orfodi anifeiliaid i fod yn agosach at draffig, sy'n golygu ein bod yn gweld mwy a mwy o anifeiliaid yn cael eu lladd mewn damweiniau â cherbydau.
"Ond gallai'r amcangyfrifon presennol ynglŷn â faint o anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar ein ffyrdd bob blwyddyn fod yn anghywir, oherwydd anifeiliaid sy'n bwydo ar y cyrff.
"Er mwyn ymchwilio i hyn, defnyddiwyd trapiau camera i efelychu anifeiliaid marw ar y ffyrdd mewn ardaloedd preswyl a pharciau ledled Caerdydd, i weld pa anifeiliaid oedd yn ysglyfaethu ym mha ardal, a ph'un a fyddai'r amser a lleoliad yn dylanwadu ar ba mor gyflym y byddai'r ysglyfaethwr yn tynnu'r anifail marw oddi yno.
"O blith 120 o gyrff marw, cafodd 76% eu tynnu oddi yno o fewn 12 awr gan ysglyfaethwyr, a'r rhan fwyaf ohonynt o fewn dwy awr ar ôl cael eu rhoi yno.
"Gwelsom hefyd fod saith o rywogaethau'n glanhau'r anifeiliaid marw ar ein strydoedd, ac mai'r ysglyfaethwyr mwyaf cyffredin oedd teulu’r brain – yn ein hachos ni, brain tyddyn a phiod.
"Roedd yr ysglyfaethwyr yn gwneud y rhan fwyaf o'u gwaith yn gynnar yn y bore, a'r adeg brysuraf ar gyfer tynnu anifeiliaid marw oddi ar y ffyrdd oedd oriau cyntaf golau dydd.
"Golyga hyn fod nifer yr anifeiliaid marw ar ffyrdd Prydain lawer uwch nag y tybiwyd yn flaenorol, a gallai amcangyfrifon blaenorol ynglŷn â nifer yr anifeiliaid sy'n marw ar y ffyrdd fod wedi'i effeithio gan ysglyfaethwyr sy'n glanhau ein strydoedd yn gynnar yn y bore.
"Drwy dynnu anifeiliaid marw oddi ar y ffyrdd yn ein hardaloedd trefol, mae ysglyfaethwyr yn gwneud gwasanaeth pwysig ar gyfer yr ecosystem."