Meithrin Gwydnwch yn y rheini sy’n Dychwelyd
5 Mehefin 2018
Yn ddiweddar, daeth Gelong Thubten o Sefydliad Samye yng Nghymru i siarad â grŵp o Nyrsys o Brifysgol Caerdydd sy'n Dychwelyd i Ymarfer (Return to Practice Nursing – RTP).
Cafodd myfyrwyr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd, sy'n dychwelyd i ymarfer, y cyfle i fynd i sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar ar ddiwrnod cyntaf eu cwrs newydd. Fel llawer o rai eraill, mae'r Academi Addysg Uwch yn annog Prifysgolion i ystyried cyflwyno rhagor o les meddyliol i'w cwricwlwm . O wneud hynny, gallem wneud y mwyaf o'r dulliau addysgu a chael y gorau o brofiad myfyrwyr yn gyffredinol.
Cynhaliodd Gelong Thubten sesiwn i fyfyrwyr newydd yr Ysgol i siarad â nhw am y modd y gallai ymwybyddiaeth ofalgar fod yn help iddynt ar eu siwrnai i ddychwelyd i'w galwedigaeth fel nyrsys. Bu'n trafod y broblem gynyddol o 'flinder tosturi', y mae nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ei wynebu o ddydd i ddydd. Crynhodd Gelong hyn fel eisiau rhoi o'ch gorau yn y gwaith, bod yn ofalgar a thosturiol bob amser, ac yna colli cymhelliant o ganlyniad i wynebu heriau parhaol. Dywedodd wrth y myfyrwyr, mewn sefyllfa o'r fath bod ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn gyffelyb â 'mynd â'ch ymennydd i'r gampfa'. Bydd hynny, mewn cyfnod cymharol fyr, yn arwain at leihau straen a gwella lefelau canolbwyntio. Aeth y drafodaeth yn ei blaen i bwysleisio y bydd y canlyniadau yn bellgyrhaeddol, bydd o fudd nid yn unig i'r myfyrwyr ond hefyd i'r rheini y dônt i gysylltiad â nhw; cydweithwyr, perthnasau a chleifion yn y pen draw.
Ar ôl amlinellu'r theori, treuliodd Gelong amser gyda'r grŵp yn trin a thrafod eu hofnau fel myfyrwyr newydd. Mynegodd y myfyrwyr eu prif bryderon ynghylch gallu ymdopi â gwaith clinigol ochr yn ochr ag astudio ac ymrwymiadau teuluol, gan ofni profiadau newydd ac felly'r annisgwyl.
Dywedodd Gelong wrthynt ei fod yn falch ohonynt am ddewis yr yrfa hon. Rhoddodd gyngor i'r myfyrwyr y dylent atgoffa eu hunain o'u rheswm dros benderfynu dychwelyd i'r yrfa a chanolbwyntio mwy ar y cyfleoedd posibl sydd bellach ar gael ar eu cyfer. Fe'u hanogodd nhw i ystyried eu hamcanion newydd fel heriau cadarnhaol, yn hytrach nag ofnau.
Cymerodd y myfyrwyr ran mewn ymarfer byr am ymwybyddiaeth ofalgar. Ar ôl ychydig funudau, dywedodd y rhan fwyaf o'r grŵp eu bod yn teimlo wedi ymlacio ac yn teimlo llawer llai o straen.
Yn ôl un myfyriwr, roedd y profiad yn 'hyfryd, defnyddiol a diddorol'. Ychwanegodd eraill, 'roedd y sesiwn yn ddechrau hyfryd i'r cwrs, ac mae’r ffaith bod y rheini sy'n cynnal y cwrs yn ymwybodol o'u lles meddyliol yn tawelu’r meddwl'.
Yn ôl myfyriwr arall, "nid oeddwn yn gwybod ei fod yn dod heddiw ac i ddechrau, roeddwn yn rhy swil i wneud sylw yng nghwmni rhywun mor ysbrydoledig, ond mor falch eich bod wedi llwyddo i'w gael i ddod i siarad â ni. Yn ddiweddar, rydw i wedi dechrau ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar felly rydw i mor falch fy mod wedi cymryd rhan yn hyn ac wedi bod yn wên o glust i glust drwy'r dydd. Rydw i ar bigau'r drain am roi gwybod i bawb amdano!"
I ddod i wybod mwy am Gelong a Sefydliad Samye ewch i: https://www.mindfulness.samye.org/
Neu, i gael mwy o wybodaeth am yr astudiaethau sy'n ymwneud â HEA ar ymwybyddiaeth ofalgar ewch i: https://www.heacademy.ac.uk/knowledge-hub/embedding-mental-wellbeing-curriculum-maximising-success-higher-education