Rhodd archif deuluol yn dangos cysylltiadau rhwng Ffrainc a Chymru
5 Mehefin 2018
Mae rôl bwysig teulu blaenllaw o Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd a ddaeth i fyw ym mhrifddinas Cymru yn cael ei ddathlu ym Mhrifysgol Caerdydd.
Daeth Paul Barbier yn Athro Ffrangeg cyntaf y Brifysgol ar ôl dod i'r ddinas i ddechrau swydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ym 1883 a oedd newydd gael ei sefydlu. Mae cysylltiadau'r teulu â Chaerdydd yn dal i fod yn gryf, ac yn ddiweddar rhoddodd perthnasau gyfoeth o ddyddiaduron, llythyrau a ffotograffau i'r Casgliadau Arbennig ac Archifau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd pob un o wyth plant Paul Barbier eu haddysg yn y ddinas, a chafodd dau o'i feibion eu galw i ymuno â byddin Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a'u secondio fel cyfieithwyr i Luoedd Ymgyrchol Prydain.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, chwaraeodd eu nai, Jacques De Guélis, ran bwysig fel ysbïwr yn y Weithrediaeth Ymgyrchoedd Arbennig (SOE) oherwydd ei gefndir Ffrengig-Prydeinig. Gan ei fod yn gallu siarad Ffrangeg yn rhugl, roedd modd iddo fynd dair gwaith i dir y gelyn heb gael ei sylwi, a chafodd ei ganmol fel arwr am ei ymdrechion. Ar ôl iddo fod mewn damwain car ychydig ar ôl diwedd y rhyfel, cafodd ei gladdu ym Mynwent Cathays yng Nghaerdydd.
Aeth ei berthnasau Delphine Isaaman, Paul Barbier ac aelodau eraill o’r teulu i ddigwyddiad arbennig i lansio’r archif ddydd Mercher 6 Mehefin, 74 blynedd ers D-Day. Ar yr un diwrnod, cafodd plac glas ei ddadorchuddio yn 3 Maes yr Amgueddfa, y tŷ ar gampws y Brifysgol lle cafodd Jacques De Guélis ei eni ar 6 Ebrill 1907.
Dywedodd Mrs Isaaman, cefnder De Guélis: "Rydw i wrth fy modd y bydd y dogfennau hyn ar gael i ysgolheigion a'r cyhoedd ehangach. Mae swm enfawr o hanes cymdeithasol yn yr archif ar gyfer 50 mlynedd gyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae'n iawn mai prifddinas Cymru yw ei gartref newydd, ma gennym gysylltiadau mor gryf."
Dywedodd yr Athro Hanna Diamond, o'r Ysgol Ieithoedd Modern, arbenigwr mewn hanes Ffrainc: "Mae hwn yn gasgliad hynod bwysig, fydd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd, myfyrwyr ac academyddion i ddysgu am deulu â stori anhygoel. Mae hefyd yn cynnig cipolwg ar sut beth oedd bywyd i bobl yng Nghaerdydd yn ystod diwedd y 19eg Ganrif a dechrau'r 20fed Ganrif. Mae'n sicr y bydd yr adnodd yn cael ei ystyried yn hynod werthfawr, ac yn etifeddiaeth briodol ar gyfer Paul Barbier a'i ddisgynyddion."
Dywedodd Alan Vaughan Hughes, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau: "Rydym wrth ein bodd i gynnig cartref diogel i'r archif anhygoel hon ar gyfer pobl a myfyrwyr Caerdydd. Mae'r cyfoeth o wybodaeth yn yr archif yn cynnig cipolwg anhygoel ar dreftadaeth ddiwylliannol a dinesig ddiddorol Caerdydd, ac rydym yn gyffrous am roi'r cyfle i'r cyhoedd ac academyddion a myfyrwyr gael mynediad ati."