Nodi ugain mlynedd o wobrau drwy ddathlu pŵer partneriaethau
1 Mehefin 2018
Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu pum prosiect cydweithio creadigol gyda busnesau, y llywodraeth a'r gymuned ehangach.
Mae ugeinfed Gwobrau Arloesedd ac Effaith y Brifysgol yn dathlu pŵer partneriaethau.
I nodi'r garreg filltir hon, dewiswyd pum prosiect arobryn cyn cynnal noson wobrwyo gala ymhen tair wythnos - ac mae gan aelodau o'r cyhoedd 20 diwrnod i ddewis eu ffefryn a phleidleisio dros 'Ddewis y Bobl'.
Bydd yr enillydd yn cael iPad. Bydd hefyd yn cael gwahoddiad i gwrdd â thîm 'Dewis y Bobl' cyn ymuno â nhw ar gyfer y cinio a'r seremoni fawreddog ddydd Mawrth 26 Mehefin.
Gallwch bleidleisio tan 12:00 ddydd Gwener 22 Mehefin.
Y pump yn y rownd derfynol yw:
Wrth siarad am brosiectau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae enillwyr eleni'n enghreifftiau rhagorol o gryfder a dyfnder gwaith y Brifysgol i nodi ugain mlynedd o Wobrau Arloesedd ac Effaith. Mae pob un yn enghraifft nodedig o ymchwil 'byd go iawn' sy'n helpu i achub bywydau a newid cymdeithas, gyda phob un yn darlunio'n berffaith pam y cawsom ein gosod yn ail yng Ngrŵp Russell ar gyfer incwm eiddo deallusol, gan gyfrif am 98% o'r incwm eiddo deallusol a gynhyrchir gan brifysgolion Cymru.”
Dywedodd David Baynes, Prif Swyddog Gweithredu, IP Group plc: "Pleser o’r mwyaf yw noddi'r ugeinfed Gwobrau Arloesedd ac Effaith. "Rwyf i wedi mynychu'r digwyddiad blynyddol eithriadol hwn ers dros ddegawd ar ran IP Group, ac wedi gweld sut mae ffocws strategol Caerdydd ar arloesedd yn parhau i greu dwsinau o gwmnïau newydd rhagorol."
Dywedodd Matthew Smith, Pennaeth adran Addysg Blake Morgan: "Mae'n bleser gennym ymuno â dathliadau ugeinfed pen-blwydd y Gwobrau Arloesedd ac Effaith. Mae arloesedd yn hanfodol ar gyfer economi sy’n ffynnu a chymdeithas deg. Mae gan brifysgolion rôl allweddol wrth wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Rydym ni'n ymfalchïo yn ein cyswllt hir gyda Phrifysgol Caerdydd ac wrth ein bodd ein bod wedi cynghori'r Brifysgol ar rai o'i phrosiectau arloesedd sy'n torri tir newydd."
Dywedodd Dr Julie Fyles, Cyfarwyddwr Symbiosis IP Ltd: "Mae'n fraint cael dathlu'r flwyddyn pen-blwydd arbennig hon gyda Phrifysgol Caerdydd sydd â rôl hollbwysig yn yr economi wybodaeth. Mae digwyddiadau tebyg yn dangos y gwahaniaeth hanfodol mae'r Brifysgol yn ei wneud yn siapio'r gymuned."
Trefnir y Gwobrau Arloesedd ac Effaith gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ddau ddegawd.