Anrhydeddau i Ganolfan Ragoriaeth Dadansoddeg a Dealltwriaeth Artiffisial (DA) Seiberddiogelwch gyntaf Ewrop
1 Mehefin 2018
Mae partneriaeth £5m rhwng Airbus a Phrifysgol Caerdydd i fynd i’r afael â seiberddiogelwch byd-eang wedi ennill Gwobr Effaith Ryngwladol.
Mae’r cydweithrediad wedi arwain at ddatblygu Canolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus - y gyntaf o’i math yn Ewrop. Gydag arbenigwyr o Airbus, bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn gwneud astudiaethau arloesol i ddysgu peirianyddol, dadansoddi data, a deallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod ymosodiadau seiber.
Yn enillydd yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni, nod y prosiect yw datblygu ffyrdd newydd o ddiogelu rhwydweithiau TG corfforaethol, eiddo deallusol, a seilwaith cenedlaethol hanfodol rhag ymosodiadau seiber.
Mae’r Ganolfan - a agorodd yn 2017 - yn adeiladu ar gydgytundeb i ddatblygu rhaglenni academaidd sy’n berthnasol i’r diwydiant ym maes seiberddiogelwch yn y Brifysgol, i lenwi’r bwlch sgiliau sy’n bodoli yn y maes. Ategir rhannu gwybodaeth rhwng Airbus a’r Brifysgol drwy gyfleoedd secondiad a lleoliadau diwydiannol i ymchwilwyr a myfyrwyr.
Dywedodd Dr Pete Burnap, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch, Prifysgol Caerdydd: “Diben dadansoddi seiberddiogelwch yw gwrthsefyll ymosodiadau seiber yn well drwy greu modeli data er mwyn canfod ymddygiad maleisus a'i atal cyn iddo achosi niwed mawr. Yn ogystal, bydd yn deall beth sy'n ysgogi'r ymddygiad hwn, beth yw ei effaith bosibl, a sut i rybuddio am ddiogelwch ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau...”
Mae’r bartneriaeth wedi arwain at Airbus yn creu technolegau cysylltiedig newydd sydd wedi trawnsewid asesu risg yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r gwaith wedi llywio polisi Llywodraeth y DU ar Seilwaith Cenedlaethol Hanfodol, creu modelau risg newydd i asesu amddiffynfeydd seiber, ac adeiladu’r hyn sydd i bob pwrpas yn ‘broffiliau DNA’ o ymddygiad drwgwedd sydd wedi bod yn fwy effeithiol wrth ganfod drwgwedd mewn amgylcheddau corfforaethol mawr. Mae’r ymchwil hefyd wedi arwain at ddulliau datblygedig o fynd i’r afael â drwgwedd sydd wedi’i integreiddio i amddiffynfeydd rheng flaen Airbus.
Dywedodd yr Athro Kevin Jones, Pennaeth Pensaernïaeth, Arloesi a Sgowtio Seiberddiogelwch Airbus: “Mae cydweithio â Phrifysgolion blaenllaw fel Prifysgol Caerdydd i wneud gwaith ymchwil, datblygu dysgu peirianyddol soffistigedig, dadansoddi data, ac mae DA er mwyn canfod ymosodiadau seiber yn ddull allweddol o ddiogelu systemau hanfodol yn y dyfodol, lle bydd awtomatiaeth yn hollbwysig.
“Mae lansio Canolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus yn fodd o droi ymchwil yn weithred yn gyflym. Mae hyn yn sicrhau bod ymchwilwyr yn gallu cael mynediad at y technegau a'r data diweddaraf, ac yn cael eu cefnogi gan arbenigwyr o Airbus hefyd.”
Bydd y cydweithredwyr yn cynnal cynhadledd ryngwladol yn ddiweddarach eleni. Ymhlith y buddion eraill mae lleoliadau israddedig yn Airbus, EPSRC a dyfarniadau PhD a ariennir gan Airbus, darlithoedd gwadd gan staff Airbus a bwrdd ymgynghori newydd i raglen MSc a addysgir ar seiberddiogelwch.