Gwobr arloesi i rwydwaith iechyd ysgolion
1 Mehefin 2018
Mae partneriaeth sydd am wella iechyd a lles myfyrwyr ysgol yng Nghymru wedi’i chydnabod â gwobr arloesi.
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) wedi dod ynghyd ag ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol ac arbenigwyr i greu a throsi ymchwil â dysgwyr ysgol uwchradd ledled Cymru yn bolisi ac yn arfer.
Dan arweiniad yr Athro Simon Murphy, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, mae SHRN yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU.
Enillodd y Wobr Arloesi mewn Gofal Iechyd yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.
Gwobr arloesi i rwydwaith iechyd ysgolion.
Y rhwydwaith yw’r mwyaf o’i fath yn y byd ac mae wedi tyfu o 69 o ysgolion yn 2013 i 212 heddiw. Mae’n casglu data ddwywaith y flwyddyn gan fwy na 100,000 o fyfyrwyr ledled Cymru rhwng 11 a 18 oed.
Caiff yr ystadegau hyn eu rhoi’n ôl i randdeiliaid ar bob lefel (gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru) i lunio polisi’n lleol ac ar draws Cymru.
Dywedodd yr Athro Murphy: “Mae’n wych ennill y Wobr Arloesi mewn Gofal Iechyd. Mae’r ysgol uwchradd yn adeg pwysig iawn i iechyd pobl ifanc a’u datblygu yn y dyfodol...”
Mae ysgolion sy’n ymuno â’r Rhwydwaith yn cael Adroddiad Iechyd a Lles Myfyrwyr unigol bob dwy flynedd, sy’n rhoi data ar les emosiynol a chorfforol allweddol eu myfyrwyr ynghyd â data cenedlaethol at ddibenion cymharu.
Defnyddiwyd data o arolwg 2015 SHRN yn helaeth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys brîff y Cynulliad Cenedlaethol ar e-sigarennau. Gwnaeth hefyd helpu i lunwyr polisi asesu’r cynnydd a wnaed yn strategaeth camddefnyddio sylweddau 2016-18, ‘Gweithio gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’, a llywiodd Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Dywedodd Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn adnodd unigryw a hyblyg i Gymru. Mae ganddo rôl allweddol i’w chwarae wrth lunio polisïau sy’n effeithio ar fywydau myfyrwyr ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae’r Rhwydwaith yn casglu data’n ôl rhywedd a grŵp blwyddyn gyda chyfartaledd cenedlaethol at ddibenion cymharu sy’n cynnwys ystod gwerthfawr o bynciau, o fwyta’n iach a gweithgarwch corfforol, iechyd a lles meddwl ac emosiynol, ysmygu a defnyddio alcohol, rhyw a pherthnasau, a dyfodol iach i bobl ifanc.”
Mewn pum mlynedd, mae SHRN hefyd wedi sbarduno 30 prosiect ymchwil i lywio’r hyn a wnaiff ysgolion, gyda dros £8.4m wedi’i roi mewn grantiau, gan gynnwys 11 ysgoloriaeth PhD.