Caerdydd yn cefnogi Gŵyl Arloesedd Cymru
31 Mai 2018
Arddangosfa ymchwil a thechnolegau sy'n arwain y byd
Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu Gŵyl Arloesedd Cymru 2018 gyda digwyddiadau ledled y campws.
Bydd yr arddangosfa dros bythefnos rhwng 16 a 30 Mehefin yn tynnu sylw at syniadau a thechnolegau o'r radd flaenaf cynnig manteision go iawn i Gymru.
Mae digwyddiadau'r Brifysgol yn cynnwys Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2018 ddydd Mawrth 16 Mehefin sy'n dathlu mentrau cydweithredol llwyddiannus a chysylltiadau'r Brifysgol â byd busnes.
Mae digwyddiadau eraill y Brifysgol ar gyfer y pythefnos yn cynnwys:
- 19 Mehefin - digwyddiad swyddogol i agor Ystafell Lân y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ar ei newydd wedd (drwy wahoddiad yn unig);
- 27 Mehefin - Argraffu 3D ar gyfer (Ail) Gweithgynhyrchu: Heriau a'r Ffordd Ymlaen – Gweithdy Diwydiant, Ysgol Busnes Caerdydd, hanner dydd – 4.30pm;
- 27 Mehefin – Digwyddiad Micro Gyflwyniadau y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Dŵr a'r Amgylchedd ynglŷn ag ymchwil hydro-amgylcheddol.
- 28 Mehefin – 'Archfygiau: diwedd meddygaeth fodern?' Techniquest, Bae Caerdydd.
Meddai’r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o chwarae rhan arweiniol yng Ngŵyl Arloesedd Cymru. Mae troi syniadau ymchwil yn gynhyrchion a ffyrdd gwaith y dyfodol yn ddibynnol ar bartneriaethau, felly rydym wrth ein bodd bod yr Ŵyl yn annog pobl o wahanol sectorau i fynd i'w ddigwyddiadau gyda'r nod o ddatblygu mentrau cydweithredol newydd."
I gael manylion llawn Gŵyl Arloesedd Cymru, ewch i: http://www.festivalofinnovation.org/