Ewch i’r prif gynnwys

Hwb mawr i ymchwil gofal brys a sylfaenol yng Nghymru

8 Gorffennaf 2015

Paramedics pushing trolley in accident and emergency department

Dyfarnu arian Cymru gyfan i Ganolfan PRIME Cymru ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a gofal brys

Dyfarnwyd  £2.7M i Brifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â phrifysgolion partner Bangor, Abertawe a De Cymru, i arwain 'Canolfan PRIME Cymru' ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys.

Bydd yr arian gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi nod y Ganolfan i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru a thu hwnt, drwy gynnal gwaith ymchwil o ansawdd uchel ar bynciau sy'n cael blaenoriaeth mewn polisïau cenedlaethol ym meysydd gofal sylfaenol, gofal brys a gofal heb ei drefnu.

Drwy'r ganolfan ymchwil, bydd Cymru ar flaen y gad o ran gofal sylfaenol a gofal brys, gan greu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisïau, ymyriadau a gwelliannau i wasanaethau, a gweithredu canfyddiadau ar draws yr amrywiol ddisgyblaethau perthnasol gan gynnwys ymarfer cyffredinol, nyrsio cymunedol, deintyddiaeth, fferylliaeth, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi, gofal cymdeithasol, gofal brys, gofal cyn mynd i'r ysbyty a gofal heb ei drefnu.

Mae gwaith ymchwil yn y maes hwn yn hanfodol gan fod 90% o gysylltiad pobl â'r GIG yn digwydd yn y gymuned, yn hytrach nag yn yr ysbyty. Mae'r boblogaeth yn heneiddio, felly mae nifer y bobl sydd â phroblemau iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth yn cynyddu. Mae gofal sylfaenol, gofal brys a gofal heb ei drefnu dibynadwy yn hanfodol ar gyfer gwasanaeth iechyd effeithiol ac effeithlon.

Gofal sylfaenol sydd bellach yn rheoli cyflyrau hirdymor fel diabetes, asthma, COPD, epilepsi a chlefyd y galon, yn hytrach nag ysbytai. Rheolir adsefydlu a hyrwyddo hunan-reoli fwyfwy yn y gymuned hefyd. Mae'r defnydd priodol o wasanaethau gofal heb ei drefnu a gofal brys, ac ymateb y gwasanaethau hyn, yn hollbwysig ar gyfer darparu gofal brys amserol o ansawdd uchel, yn ogystal â gwasanaethau gofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol effeithlon.

Mae gwaith ymchwil o safon uchel yn hanfodol er mwyn llywio gofal cleifion, ail-lunio gwasanaethau ac adnabod cyfleoedd i arbed costau ar gyfer y GIG. Bydd y ganolfan yn adeiladu ar feysydd presennol o ragoriaeth wyddonol yng Nghymru gyda themâu ymchwil craidd sy'n canolbwyntio ar gyflyrau hirdymor, gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf a gofal iechyd darbodus, heintiau ac ymwrthiant i wrthfiotigau, gofal brys a gofal heb ei drefnu (gan gynnwys gofal cyn mynd i'r ysbyty), diogelwch cleifion a gwelliannau i ofal iechyd, yn ogystal ag atal, sgrinio a diagnosis cynnar.

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a fydd yn arwain y Ganolfan:

"Dyma gyfle gwych i wneud y gwaith ymchwil sydd wir ei angen yn y meysydd hanfodol hyn yn y GIG, gan weithio gyda chleifion a'r cyhoedd, ac ar eu cyfer. Ar adeg pan mae'r GIG yn wynebu sawl her o bwys, a phoblogaeth sy'n heneiddio han arwain at anghenion fwyfwy cymhleth o ran iechyd a gofal, mae gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal brys effeithiol ac o ansawdd da, sy'n canolbwyntio ar y claf, yn gwbl hanfodol er mwyn i'r GIG yn gyffredinol ddarparu'r gofal iechyd y mae ar gleifion ei angen a'i eisiau."

Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

"Rwy'n falch iawn bod gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach ganolfan rhagoriaeth ymchwil mewn gofal sylfaenol a gofal brys. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolfan PRIME yn dangos ein hymrwymiad i ariannu gwaith ymchwil a all gael effaith gwirioneddol ar wella iechyd, lles a ffyniant pobl Cymru."

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynt) yn sefydliad cenedlaethol, amlweddog a rhithiol a gaiff ei ariannu a'i oruchwylio gan Isadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon