Llwyddo i gael arian ar gyfer ymchwil fyd-eang
4 Mai 2018
Mae Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar fin mynd i’r afael â heriau byd-eang sy’n wynebu gwasanaethau gofal iechyd, addysg, a chadwyni cyflenwi technoleg uchel ar ôl sicrhau arian gan Ymchwil ac Arloesedd y DU.
Bydd gwerth £60,000 o ddyfarniadau Global Challenges Research Fund (GCRF) – a sicrhawyd gan yr Athrawon Jonathan Morris ac Aris Syntetos, a’r Dr Bahman Rostami-Tabar o Ysgol Busnes Caerdydd – yn rhoi tri phrosiect ar waith yn India a Tunisia.
Uwchraddio economaidd a chymdeithasol
Bydd yr Athro Morris yn astudio’r isadeileddau presennol ar gyfer cynhyrchu, gweithgynhyrchu a chyflenwi technolegau uchel yn India.
Drwy weithio ar y cyd â’r Athro Dev Nathan o’r Sefydliad er Datblygiad Dynol, New Delhi, bydd yr Athro Morris yn cynnal cyfres o gyfweliadau gyda chwmnïau yn Bangalore er mwyn deall y cyd-destunau peirianneg, datblygu ac ymgynghori mewn technoleg uwch ar draws y genedl sy’n datblygu’n gyflym.
Meddai: “Mae dadansoddiad o’r mathau hyn o gadwyni nwyddau byd-eang yn draddodiadol gysylltiedig â’r sector ddillad ac – mewn cysylltiad â hynny – gwaith a llwybrau gyrfa incwm isel...”
Darogan er lles cymdeithasol
Diolch i’r arian a sicrhawyd drwy GCRF, bydd yr Athro Aris Syntetos a Dr Bahman Rostami-Tabar hefyd yn gweithio yn India.
Gan ddod â 30 o gyfranogwyr ynghyd o bum sector gwahanol – gan gynnwys prosiectau cymorth dyngarol a thrychineb, elusennau a gwasanaethau cymdeithasol, addysg, gofal iechyd a llywodraeth a llunwyr polisi – bydd yr Athro Syntetos yn arwain gweithdy 3 diwrnod i ddangos pwysigrwydd darogan er lles cymdeithasol.
Yn ôl yr Athro Syntetos: “Gan ddod ag academyddion ac ymarferwyr ynghyd gyda chenadaethau cymdeithasol o bob rhan o India, byddwn yn gallu adnabod rhai o’r heriau a wynebir yn India...”
Mapio Gweithrediadau
Yn ogystal â chefnogi’r Athro Syntetos i gynnal y gweithdy darogan yn India, mae Dr Bahman Rostami-Tabar hefyd yn arwain prosiect arall, sy’n cwblhau’r triawd llwyddiannus wnaeth gael dyfarniadau GCRF.
Bydd Dr Rostami-Tabar, ar y cyd â GIG Cymru ac Ysbyty Charles Nicolle ysbyty yn Tunis, yn asesu’r arferion rheoli llif ar gyfer cleifion Achosion Brys a Meddygol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn Tunisia.
Meddai: “Drwy fapio llif gweithredol cynnyrch, gwybodaeth, arian, cleifion ac adnoddau dynol, rwyf am adnabod meysydd i’w gwella...”
Mae prosiect diweddaraf Dr Rostami-Tabar yn rhan o gyfres sydd wedi’i halinio â chenhadaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol ac wedi’i alluogi gan arian mewnol a Sefydliad Rhyngwladol Daroganwyr (yr International Institute of Forecasters).
Mae GCRF yn gronfa £1.5 biliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn hwyr yn 2015 i gefnogi ymchwil arloesol sy’n mynd i’r afael â’r heriau y mae gwledydd sy’n datblygu yn eu hwynebu.