Myfyrwyr yn helpu i godi gwên ar wyneb plant de Cymru
24 Mai 2018
Mae myfyriwr meddygaeth yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn dod â hapusrwydd i blant de Cymru drwy brosiect gwisg ffansi.
Menter o dan arweiniad myfyrwyr yw Codi Gwên a gafodd ei sefydlu gan Luke Morgan. Caiff ei chynnal mewn partneriaeth â Gwirfoddoli Caerdydd sy’n trefnu i wirfoddolwyr ymweld ag ystod o wardiau mewn ysbytai plant, canolfannau, digwyddiadau a phartïon pen-blwydd wedi gwisgo fel rhai o hoff gymeriadau plant.
Cafodd Luke ei ysbrydoli i ddechrau'r prosiect ar ôl gwylio fideo o rywun wedi'i wisgo fel Tinkerbell yn defnyddio iaith arwyddion i siarad â phlentyn.
Ers iddo ddechrau yn 2017, mae'r prosiect wedi tyfu ac erbyn hyn mae 99 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan, ynghyd â nifer o fyfyrwyr o Goleg Dewi Sant sy'n gyfagos. Wrth esbonio cyfraniad gwirfoddolwyr y Coleg, dywedodd Luke: "Roeddwn i'n arfer mynd i Goleg Dewi Sant ac roeddwn i'n ymwybodol pa mor anodd yw hi i fyfyrwyr gael profiad i gyd-fynd â'u ceisiadau i'r ysgol meddygaeth, ac roeddwn i'n teimlo y byddai Make a Smile yn cynnig ffordd ddelfrydol o gael profiad ychwanegol."
Mae'r grŵp yn ymweld ag ysbytai a chlybiau cymunedol lle maen nhw'n sgwrsio â'r plant ac yn tynnu lluniau, ynghyd â chwarae gemau, canu a darllen straeon i'r plant. Mae'r ymateb gan rieni a gofalwyr i'r grŵp o fyfyrwyr sy'n gwisgo fel cymeriadau o gartwnau a straeon wedi bod yn gadarnhaol.
Wrth siarad am ei brofiad yn gwirfoddoli yn y Brifysgol, dywedodd Luke: "Mae gwirfoddoli wedi gwella fy mhrofiad yn y Brifysgol yn fawr. Rydw i wedi cael cefnogaeth ragorol gan y Brifysgol sy'n fy ngalluogi i drefnu Make a Smile ochr yn ochr â fy astudiaethau. Rwy'n teimlo bod gallu cynnig hapusrwydd o'r fath i blant mewn amgylchedd di-straen yn cael effaith arna i hefyd. Rwy'n ei fwynhau mas draw ac mae'n lleihau fy straen, ac yn fy helpu i ddatblygu'n berson â phrofiadau eang.
"Mae sefydlu a gwirfoddoli gyda Make a Smile wedi arwain at nifer o gyfleoedd nad oeddwn i wedi eu disgwyl. Rydw i wedi gweld amrywiaeth enfawr o blant ac wedi gallu gwneud hyfforddiant mewn arweinyddiaeth ac Iaith Arwyddion Prydain"