Gwobrau Cymdeithas Ddysgedig Cymru
25 Mai 2018
Mae tri academydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith rhagorol mewn seremoni wobrwyo fawreddog.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod rhagoriaeth ac yn dathlu etifeddiaeth llwyddiant yng Nghymru.
Cafodd yr Athro Graham Hutchings FRS wobr Menelaus am ragoriaeth ym maes peirianneg a thechnoleg.
Yr Athro Hutchings yw cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd a deiliad teitl Athro Regius, ac ef yw un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes catalysis.
Yr Athro Lynne Boddy, o Ysgol y Biowyddorau, yw enillydd haeddiannol medal Frances Hoggan eleni. Mae’r wobr hon yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad eithriadol menywod sy’n gysylltiedig â Chymru ym meysydd gwyddoniaeth, meddygaeth, peirianneg, technoleg a mathemateg.
Mae’r Athro Boddy yn ecolegydd ffwng. Nod ei gwaith yw dyfnhau ein dealltwriaeth o ffyngau - sy’n hanfodol i ecosystemau daearol y Ddaear. Maent yn ffynonellau pwysig o fwyd i nifer o rywogaethau, gan gynnwys bodau dynol, sy’n bresennol mewn cyrff ffrwythau wedi’u hamaethu, burum mewn bara a chwrw, a rhai cigoedd a chaws. Maent hefyd yn cynhyrchu llawer o gyffuriau buddiol yn ogystal â chemegau diwydiannol.
Mae hi’n eiriolwr brwdfrydig, sy’n rhannu ei hymchwil gyda chynulleidfa ehangach drwy rhoi sgyrsiau, cymryd rhan mewn digwyddiadau bioleg a natur, a thrwy’r cyfryngau. Mae digwyddiadau yn cynnwys Diwrnod Ffwng y DU, ac mae hi wrthi’n ceisio ei ehangu yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Ffwng.
Dywedodd yr Athro Boddy: “Anrhydedd o’r mwyaf yw derbyn y wobr hon, yn fwy o bosibl gan fod y medal wedi’i enwi ar ôl rhywun oedd wedi gorfod gwneud ymdrech eithriadol i gael y cyfle i weithio mewn pwnc STEMM.
“Mae’n amlwg bod nifer fawr o fyfyrwyr a chydweithwyr wedi gweithio’n anhygoel o galed ac wedi cyfrannu’n fawr at y canfyddiadau sydd wedi arwain at dderbyn medal Frances Hoggan. Mae’r wobr hon ar eu cyfer nhw gymaint ag ydyw ar fy nghyfer i, a diolchaf iddynt o waelod calon am eu dycnwch, bywiogrwydd, medr arbrofol a thrafodaethau ysgogol.”
Mae Dr Dawn Mannay, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau, wedi derbyn Medal Dillwyn ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes. Mae’r medal yn dathlu cyfraniad ymchwilwyr eithriadol ar ddechrau eu gyrfa sydd â chysylltiad â Chymru.
Mae ymchwil Dr Mannay yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau sy’n ymwneud â dosbarth, rhyw ac addysg. Mae wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Wellcome ar brosiect sy’n canolbwyntio ar brofiadau mamau yng Nghymru sydd wedi’u gwthio i’r ymylon.
Mae hi hefyd wedi bod ynghlwm ag ymchwil a gweithgareddau effaith sy’n ceisio gwella profiadau addysgol a deilliannau i bant a phobl ifanc mewn gofal. Roedd hyn yn cynnwys prosiect blaenllaw, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, fu’n edrych ar brofiadau addysgol a safbwyntiau, cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yng Nghymru (prosiect LACE).
Dr Mannay a lwyddodd sefydlu ExChange: Care and Education yn 2017, gwefan sy’n cynnal deunyddiau mynediad am ddim, astudiaethau achos, a’r canllawiau arfer gorau i rhanddeiliaid sydd â diddordeb mewn addysg plant a phobl ifanc sydd â profiad o ofal.
Wrth ennill y wobr, dywedodd Dr Mannay: “O gofio hanes Medal Dillwyn ac enw da Cymdeithas Ddysgedig Cymru, roedd yn anrhydedd cael fy enwebu ar gyfer y wobr, a’i derbyn. Rwy’n gobeithio parhau â fy ymchwil a gweithio gyda myfyrwyr i wneud yn siŵr bod Prifysgol Caerdydd yn cynhyrchu cenhedlaeth newydd o raddedigion sy’n gallu cyfrannu at greu gwell tirlun cymdeithasol ac economaidd, ac un mwy cyfartal.”
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 24 Mai.