Academydd yn rownd derfynol Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru
25 Mai 2018
Mae Hummingbird, nofel ddiweddaraf darlithydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Tristan Hughes, wedi cyrraedd rhestr fer uchel iawn ei pharch Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2018.
Mae'r llyfr yn un o'r tri sydd wedi'u henwebu ar gyfer y categori Gwobr Ffuglen, ochr yn ochr â Light Switches Are My Kryptonite gan Crystal Jeans, a Bad Ideas/Chemicals gan Lloyd Markham.
Ar ran panel y beirniad, dywedodd y darlledwr a'r awdur Carolyn Hitt: "I mi, mae'r broses feirniadu wedi bod yr un mor heriol ac ysbrydoledig â'i gilydd. Bu'n rhaid i ni fod yn ddidrugaredd wrth ddewis pa lyfrau oedd yn dod i’r brig. Ond mae hon yn rhestr fer sy'n adlewyrchu amrywiaeth ac ansawdd ysgrifennu Saesneg o Gymru - o enwau sefydledig sydd ar uchafbwynt eu gyrfa hyd at leisiau newydd cyffrous yn torri drwodd."
Yn ei nofel ddiweddaraf, mae Hughes yn dychwelyd i gyfnod ei ieuenctid yn y stori fyw a barddonol hon am farwolaeth, bywyd a'r newidiadau a ddaw yn eu sgîl. Wedi'i osod yn nyfnderoedd harddwch garw, didosturi coedwigoedd gogledd Ontario, mae Hummingbird yn datgelu stori am golled, absenoldeb ac achubiaeth.
Dywedodd Tristan, o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: "Rydw i wrth fy modd ac yn falch iawn o fod ar rhestr fer y wobr hon. Mae cael eich cydnabod am eich gwaith yn deimlad anhygoel."
Cyrraedd y rhestr fer hon yw'r diweddaraf mewn rhes hir o gydnabyddiaeth sydd wedi dod i ran yr awdur o Ganada. Yn gynharach eleni, enillodd Hummingbird Wobr Edward Stanford am Ffuglen gydag Ymdeimlad o Le.
Y mis hwn, derbyniodd ei stori fer, 'Up Here', wobr glodfawr lenyddol Americanaidd O. Henry, a ddyfernir yn flynyddol i'r 20 stori fer orau a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Bydd y stori, a ymddangosodd yng nghylchgrawn llenyddol Ploughshares yn wreiddiol, yn cael ei chyhoeddi yr hydref hwn yn rhan o ddetholiad Straeon Gwobr O. Henry 2018.
Cafodd Tristan Hughes ei eni yng ngogledd Ontario a'i fagu yn Ynys Môn, ac mae’n parhau i addysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ef yw awdur y nofelau Eye Lake, Revenant, a Send My Cold Bones Home, yn ogystal â chasgliad o straeon byrion, The Tower, ac mae hefyd wedi ennill Gwobr Stori Fer Rhys Davies.
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru, a weinyddir gan Lenyddiaeth Cymru, yn cael ei chyflwyno i'r gwaith yn yr iaith Gymraeg a Saesneg gorau a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn y flwyddyn flaenorol ym maes Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Creadigol.
Bydd gwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2018 yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn y brifddinas ar y 26 Mehefin.
Addysgir Ysgrifennu Creadigol ar bob lefel, o BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol hyd at Radd Meistr a Doethuriaeth yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.