Sut mae hyfforddi eich feirws
24 Mai 2018
Gallai triniaeth canser sy’n gallu dinistrio celloedd canser yn llwyr heb effeithio ar gelloedd iach fod yn bosibilrwydd yn fuan, yn sgîl ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Mae’r tîm o ymchwilwyr wedi llwyddo i 'hyfforddi' feirws resbiradol i adnabod canser yr ofarïau a’i ddinistrio’n llwyr heb heintio celloedd eraill.
Gellid defnyddio’r feirws a ailraglennwyd hefyd i drin canserau eraill megis canser y fron, y pancreas, yr ysgyfaint a’r geg.
Dywedodd Dr Alan Parker, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae feirysau wedi’u hailraglennu eisoes yn cael eu defnyddio mewn triniaethau therapi genynnau i drin amrywiaeth o afiechydon, sy’n dangos bod modd eu hyfforddi a’u troi o fod yn bygwth bywyd i fod yn gyfryngau posibl i achub bywyd.
"Wrth drin canser, hyd yn hyn nid yw feirysau a ailraglennwyd wedi gallu adnabod a dethol y celloedd canser yn unig, a byddent hefyd yn heintio celloedd iach, gan arwain at sgil-effeithiau digroeso.
"Rydym wedi cymryd feirws cyffredin, a astudiwyd yn ofalus, a’i ailddylunio’n llwyr, fel nad yw bellach yn gallu glynu wrth gelloedd heb ganser, ond ei fod yn hytrach yn chwilio am brotein nodi penodol o’r enw integrin αvβ6, sy'n unigryw i rai celloedd canser, sy’n caniatáu iddo ymosod arnynt.
Wedi i’r feirws fynd i mewn i’r gell ganser, bydd yn defnyddio peirianwaith y gell ei hun i ddyblygu, ac yn cynhyrchu miloedd lawer o gopïau ohono’i hun cyn byrstio’r gell, fydd hefyd yn ei dinistrio. Yna gall y copïau feirysol newydd eu rhyddhau lynu wrth gelloedd canser cyfagos a’u heintio, a bydd y gylchred yn ailddechrau, ac yn y pen draw bydd y tiwmor yn diflannu'n gyfan gwbl. Mae’r feirws hefyd yn sbarduno system imiwnedd naturiol y corff, gan ei helpu i adnabod a dinistrio’r celloedd malaen.
Daw’r feirws a ailraglennwyd o grŵp o feirysau resbiradol a elwir yn adenofeirysau. Mantais defnyddio’r feirysau hyn yw eu bod yn gymharol hawdd eu trin ac eisoes wedi cael eu defnyddio’n ddiogel i drin canser.
Gellid defnyddio’r dechneg sy’n hyfforddi’r feirws i adnabod y protein sy’n gyffredin i ganser yr ofarïau, y fron, y pancreas, yr ysgyfaint a’r geg hefyd i fanipwleiddio’r feirws fel ei fod yn adnabod proteinau sy’n gyffredin i grwpiau eraill o ganserau.
Hefyd, trwy fireinio pellach ar y DNA feirysol a ailraglennwyd, gellid galluogi’r feirws i gynhyrchu cyffuriau gwrthganser, megis gwrthgyrff, yn ystod y broses o heintio celloedd canser. Mae hyn i bob pwrpas yn troi’r canser yn ffatri cynhyrchu cyffuriau a fydd yn achosi ei ddinistr ei hun.
Cynhaliwyd yr ymchwil mewn labordy, gan ddefnyddio llygod sydd â chanser yr ofarïau, ac nid yw eto wedi cyrraedd treialon clinigol. Y cam nesaf fydd profi’r dechneg gyda mathau eraill o ganser, gyda'r bwriad o ddechrau treialon clinigol ymhen pum mlynedd.
Dywedodd Dr Catherine Pickworth o Ymchwil Canser y DU: "Mae'n galonogol gweld bod y feirws hwn, a addaswyd i gydnabod marcwyr ar gelloedd canser, yn gallu heintio a lladd celloedd canser yr ofari yn y labordy. Nanodechnoleg natur yw firysau, ac mae defnyddio eu gallu i gipio celloedd yn faes o ddiddordeb cynyddol yng nghyd-destun ymchwil canser. Cynnal rhagor o ymchwil yw’r cam nesaf i weld a allai hyn fod yn ddull diogel ac effeithiol i'w ddefnyddio mewn pobl."
Mae'r tîm yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Clinig Mayo yn Rochester, UDA; Prifysgol Glasgow; Sefydliad Canser De-orllewin Cymru; a Canolfan Ganser Felindre.
Ariannwyd yr astudiaeth gan Cancer Research UK, gofal canser Tenovus ac ymchwil canser Cymru
Cyhoeddwyd y papur ‘Ad5NULL-A20 – a tropism-modified, αvβ6 integrin-selective oncolytic adenovirus for epithelial ovarian cancer therapies’ yn Clinical Cancer Research.
The research was carried out in a laboratory, using mice with ovarian cancer, and has not yet reached clinical trials. The next step is to test the technique with other cancers, with a view to starting clinical trials in five years’ time.
Dr Catherine Pickworth from Cancer Research UK said: “It’s encouraging to see that this virus, which has been modified to recognise markers on cancer cells, has the ability to infect and kill ovarian cancer cells in the lab. Viruses are nature’s nanotechnology and harnessing their ability to hijack cells is an area of growing interest in cancer research. The next step will be more research to see if this could be a safe and effective strategy to use in people.”
The team includes researchers from Cardiff University; the Mayo Clinic in Rochester, USA; Glasgow University; the South West Wales Cancer Institute; and Velindre Cancer Centre.
The research was funded by Cancer Research UK, Tenovus Cancer Care and Cancer Research Wales.
The paper ‘Ad5NULL-A20 – a tropism-modified, αvβ6 integrin-selective oncolytic adenovirus for epithelial ovarian cancer therapies’ is published in Clinical Cancer Research.