WWIC yn helpu i ddenu buddsoddiad £3m o Awstralia
23 Mai 2018
Cafodd Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru (WWIC) 'effaith sylweddol' wrth ddenu buddsoddiad £3m yng Nghymru.
O ganlyniad i arbenigedd WWIC mewn gwella clwyfau, penderfynodd Medical Ethics o Melbourne i ddewis Caerdydd ar gyfer ei bencadlys newydd yn hemisffer y gogledd.
Dywedodd Allan Giffard, Rheolwr Gyfarwyddwr, Medical Ethics: "I ni, Cymru oedd y dewis amlwg yn y DU, yn enwedig o ystyried ein sector – Gwyddorau Bywyd. Mae gan Gymru'r sgiliau, arbenigedd a'r seilwaith i alluogi ein busnes i ffynnu.
"Drwy'r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) rydym wedi gallu cymryd rhan yn y Rhaglen Entrepreneur Fyd-eang, sydd wedi ein galluogi i oresgyn nifer o heriau. Fe wnaeth DIT, ynghyd ag Innovate UK, hefyd ein cefnogi drwy ein cyflwyno i arbenigwyr allweddol gan gynnwys Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru yng Nghaerdydd, a gafodd effaith sylweddol ar ein penderfyniad i ddewis y DU."
Wrth groesawu'r buddsoddiad uniongyrchol dros dair blynedd yng Nghymru, dywedodd yr Athro Keith Harding, Cyfarwyddwr WWIC: "Mae WWIC yn falch o gefnogi'r buddsoddiad uniongyrchol diweddaraf hwn yng Nghymru. Rydym wedi bod mewn trafodaethau â'r cwmni hwn ers peth amser ac rydym wrth ein bodd â'u penderfyniad i ddod i Gymru lle bydd ganddynt fynediad uniongyrchol at WWIC – y ganolfan gwella clwyfau genedlaethol gyntaf yn y byd."
Mae Medical Ethics yn datblygu cynhyrchion sy'n lleddfu poen ac yn lleihau dioddefaint sy'n gysylltiedig â chlwyfau a gweithdrefnau llawfeddygol mewn anifeiliaid. Fel canolfan arbenigedd gwyddorau bywyd yn y DU, bydd Cymru a Chaerdydd yn lleoliad delfrydol.
Mae'r cwmni wedi gweithio gyda DIT am ddwy flynedd, yn cael cyngor, cymorth â cheisiadau grant, a chyflwyniadau at randdeiliaid allweddol yn y DU, ac mae wedi datblygu mentrau cydweithredol â WWIC a Phrifysgol Caerdydd.
WWIC yw'r cyfleuster arloesedd clinigol mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Mae wedi'i ymrwymo i drawsnewid y broses o reoli a darparu gofal iechyd clwyfau (atal a thrin) drwy weithredu ar sail rhwydwaith cydlynol sy’n cael ei hwyluso i ddiwallu anghenion ein rhanddeiliaid a’n cwsmeriaid.
Dewisodd Medical Ethics i fuddsoddi yn y DU oherwydd ei harbenigedd mewn nifer o'r meysydd sydd eu hangen i fasnachu technoleg y cwmni. Mae hyn yn cynnwys materion rheoleiddio, gweithgynhyrchu ac astudiaethau clinigol, cymorthdaliadau treth, a chymhellion blwch patent.
Ar hyn o bryd mae Medical Ethics yn defnyddio 18 o ddarparwyr gwasanaeth annibynnol ac ymgynghorwyr ledled y DU, ac mae ganddo gynlluniau i gynyddu nifer ei staff.
Yn 2016-17, nododd DIT fod 85 o brosiectau buddsoddi yng Nghymru, yn creu 2,581 o swyddi. Allforiodd cwmnïau o Gymru dros £16.4bn o nwyddau yn 2017. Y DU yw'r prif leoliad yn Ewrop ar gyfer Buddsoddiad Uniongyrchol o Dramor ym maes y gwyddorau iechyd a bywyd.