Y pethau y dylid eu gwneud a'r pethau na ddylid eu gwneud wrth ddefnyddio metrigau hydrohinsawdd
22 Mai 2018
Gwerthuso dilysrwydd gwyddonol metrigau ansoddol a ddefnyddir mewn ymchwil sy’n edrych ar effaith y newid yn yr hinsawdd.
Mae gwybodaeth a dadansoddiad o'r modd y mae systemau hydrolegol yn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd yn bwysig er mwyn ategu'r arferion gorau wrth wneud penderfyniadau ynghylch cynllunio dŵr. Fodd bynnag, mae datblygiad amcanestyniadau ar gyfer metrigau hydrohinsawdd - mynegeion meintiol a fwriadwyd i gofnodi nodweddion system hydrolegol - yn wynebu heriau cysyniadol a thechnegol.
Mae gwerthuso hygrededd gwyddonol a pha mor ddigonol yw sefyllfaoedd yn y dyfodol ar gyfer argaeledd a pheryglon dŵr yn dasg gymhleth. Ceir heriau wrth gyfrifo metrigau heb ystyried cyfyngiadau system modelu hinsawdd a hydrolegol sylfaenol. Fodd bynnag, gall dealltwriaeth o’r metrigau mwyaf cadarn helpu i hwyluso mesur newid hydrolegol yn y dyfodol.
Mae'r erthygl "Robustness of hydroclimate metrics for climate change impact research", a gyd-ysgrifennwyd gan Dr Marie Ekström, yn adolygu'r mathau o hydrofetrigau a ddefnyddir gan amlaf mewn ymchwiliadau newid yn yr hinsawdd, ac mae’n gwerthuso a yw'r rhain yn addas neu'n anaddas i'w defnyddio yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd. Mae'n argymell y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i'r diben o ddefnyddio metrig a'i rannau cyfansoddol, wrth benderfynu a yw'n gadarn o dan y newid yn yr hinsawdd neu a fyddai llinyn mesur arall yn fwy priodol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Newyddion Gwyddoniaeth Uwch.