Cyfradd uwch o dderbyniadau heb eu cynllunio i’r ysbyty
22 Mai 2018
Mae astudiaeth gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) yn awgrymu bod plant sy'n byw gydag oedolyn sydd â chyflwr iechyd meddwl neu ddibyniaeth ar alcohol yn sylweddol fwy tebygol o gael derbyniad heb ei gynllunio i’r ysbyty.
Canfu'r astudiaeth, y gyntaf o'i bath i edrych ar boblogaeth gyfan Cymru, fod derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer anafiadau yn cynyddu 14% yn achos plant sy'n byw gydag oedolyn sydd â chyflwr iechyd meddwl ac yn cynyddu 13% yn achos y rhai sy'n byw gyda rhiant sydd â salwch cysylltiedig ag alcohol.
Edrychodd y tîm ar gofnodion derbyniadau i'r ysbyty a Meddyg Teulu heb ddata adnabod ar gyfer 253717 o blant sy'n byw yng Nghymru, yn ystod 14 blynedd cyntaf eu bywyd.
Dangosodd astudiaethau blaenorol fod amlygiad i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig yn ystod oedolaeth â chamddefnyddio sylweddau, salwch meddwl, gordewdra, clefyd y galon, canser, diweithdra, ac ymwneud â thrais. Fodd bynnag, nid oedd llawer yn hysbys am effeithiau amlygiad i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod megis cyflyrau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol yn y teulu ar iechyd corfforol plentyn.
Dywedodd yr Athro Shantini Paranjothy, Dirprwy Gyfarwyddwr NCPHWR, Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr ymchwil: "Mae anhwylderau meddyliol yn gyffredin mewn teuluoedd; mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod plant mewn un o bob tair aelwyd yn byw gydag oedolyn sydd â chyflwr iechyd meddwl.
Prif ganfyddiadau:
- Mae 1 o bob 3 aelwyd sy’n cynnwys babanod yn cynnwys oedolyn sydd yn neu wedi dioddef o gyflwr iechyd meddw
- Roedd gan blant oedd yn byw gydag oedolyn oedd â chyflwr iechyd meddwl:
- risg 17% yn uwch o dderbyniad heb ei gynllunio am unrhyw achos
- risg 14% yn uwch o dderbyniadau brys oherwydd anafiadau - gan gynnwys damweiniau, hunan-niweidio ac ymosodiadau
- risg 55% yn uwch o dderbyniadau brys oherwydd erledigaeth - lle mae pryder ynghylch lles y plentyn
- Roedd gan blant oedd yn byw gydag oedolyn oedd wedi cael ei dderbyn i’r ysbyty am reswm cysylltiedig ag alcohol:
- risg 13% yn uwch o dderbyniadau brys oherwydd anafiadau
- risg 44% yn uwch o dderbyniadau brys oherwydd erledigaeth
- Mae risg derbyniadau plant yn cynyddu os bydd gan riant gyfuniad o gyflwr iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol.
Yn ogystal, canfu'r tîm fod mwy o amddifadedd cymdeithasol, plant a enir i famau ifanc a mamau fu’n smygu yn ystod beichiogrwydd hefyd yn cynyddu risg derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygiad Rhyngwladol yn Iechyd y Cyhoedd: “Mae plant sy’n cael eu cam-drin a’u hanafu yn ystod plentyndod yn debygol o gael problemau iechyd eu hunain drwy gydol eu hoes, gan ei fod yn cynyddu’r risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl ac alcohol wrth iddynt dyfu.
Mae gan ymchwil fel hon rôl hanfodol wrth ddeall sut y gallwn dorri'r cylch niweidiol hwn. Mae'r astudiaeth hon yn rhan o gydweithrediad pwysig rhwng Prifysgolion, Iechyd y Cyhoedd a Llywodraeth yng Nghymru. Eu nod yw sicrhau bod teuluoedd yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a bod plant yn tyfu heb brofi Profiadau Andwyol yn ystod Plentyndod.
Ychwanegodd yr Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr NCPHWR, Prifysgol Abertawe: "Mae ymchwil i achosion profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn faes gwaith allweddol i NCPHWR. Yn bwysig, mae’r gwaith a wnaed gan Shantini a’r tîm yn darparu tystiolaeth sy’n gallu cyfrannu at y drafodaeth ynghylch lleihau’r effeithiau niweidiol ar blant sydd mewn cysylltiad â rhiant sydd â chyflwr iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol.”