Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb statudol newydd ar gyfer Cymru
22 Mai 2018
Mae adolygiad o’r cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru wedi arwain at drawsnewid y modd y caiff ei addysgu mewn ysgolion.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams mai Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb fydd enw newydd y maes astudiaeth hwn – rhan statudol o gwricwlwm newydd Cymru, a ddaw rym yn 2022.
Caiff y diwygiadau eu cyflwyno yn sgîl awgrymiadau gan banel arbenigol dan arweiniad Emma Renold, Athro Astudiaeth Plentyndod ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar hyn o bryd, mae Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn rhan statudol o’r cwricwlwm sylfaenol ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru, ond dewis yr ysgol yw beth i’w addysgu, a sut i wneud hynny.
Roedd casgliad y panel arbenigol fel a ganlyn: Mae’r gyfraith a’r canllawiau presennol ar gyfer Addysg Rhyw a Pherthnasoedd wedi dyddio; prin yw’r ddarpariaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar hyn o bryd; nid oes digon o sylw’n cael ei roi i hawliau, rhywedd a chydraddoldeb rhywiol, emosiynau a pherthnasoedd; mae bwlch rhwng profiadau bywyd plant a phobl ifanc a chynnwys Addysg Rhyw a Pherthnasoedd; ac fel maes cwricwlwm, mae diffyg adnoddau ar gyfer Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn aml ac yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth isel mewn ysgolion, gan arwain at ddarpariaeth anwastad ac anghyfartal.
Bydd maes newydd Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yn wahanol iawn i’r arferion presennol. Bydd yn galluogi dysgwyr i ymgysylltu â chwricwlwm ehangach sy’n gwbl gynhwysol ac yn parchu pob rhywedd a rhywioldeb. Bydd yn ymdrin â materion craidd, gan gynnwys cydsynio a cham-drin mewn perthynas.
Bydd y diffiniad mwy cyfannol hwn o Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yn galluogi athrawon i ddatblygu rhaglen berthnasol wedi’i llywio gan anghenion sy’n gallu cwmpasu’r chwe maes dysgu a phrofiad o’r dyniaethau a’r celfyddydau mynegiannol i’r gwyddorau a thechnoleg.
Mae’r penderfyniad i newid ffocws y maes astudiaeth hwn i berthnasoedd a rhywioldeb – yn ogystal â’r penderfyniad i'w wneud yn statudol – yn adlewyrchu ei bwysigrwydd aruthrol o ran y modd y mae’r rheini sy’n dysgu yn deall eu hunain, ei gilydd, eu cymuned a chymdeithas.
Pan ddaw cwricwlwm newydd Cymru i rym yn 2022, bydd Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yn statudol i blant rhwng 5 ac 16 oed. Bydd arweiniad a hyfforddiant statudol newydd a chymorth i athrawon yn cyd-fynd â hynny, wrth addysgu athrawon yn y lle cyntaf yn ogystal ag ar gyfer y gweithlu presennol.
“Hawliau, tegwch, cynwysoldeb, amddiffyn a grymuso yw’r egwyddorion sydd wrth wraidd y cwricwlwm newydd. Bydd yn creu dyfodol addawol ar gyfer Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yng Nghymru, ac yn dwyn ychydig o’r arfer gorau sydd eisoes ar waith, yn ei flaen mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru a thu-hwnt.”
Yn ôl Kirsty Williams AC: “Mae dyddiau addysg rhyw traddodiadol wedi hen fynd heibio; mae’r byd wedi symud yn ei flaen ac mae’n rhaid i’n cwricwlwm symud i’r un cyfeiriad. Mae’n ffaith bod perthnasoedd a rhywioldeb yn llunio ein bywydau yn ogystal â’r byd o’n cwmpas. Maent yn rhan hanfodol o bwy yr ydym a’r modd y deallwn ein hunain, eraill a’r gymdeithas.
“Bydd sicrhau bod gan ein hathrawon y wybodaeth a’r hyder i ddarparu’r Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb y mae ein dysgwyr yn ei haeddu yn hanfodol i hyn. Dyna ein rheswm dros sicrhau ein bod yn cael yr hyfforddiant a’r datblygiad proffesiynol yn iawn.”
Er mwyn sbarduno'r broses hon, bydd Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod £200,000 ar gael i'r consortia addysg er mwyn iddynt allu dechrau’r broses o nodi anghenion dysgu proffesiynol yn y maes hwn. Dyfarnwyd £50,000 pellach hefyd i Gymorth i Fenywod Cymru i ddatblygu adnoddau a hyfforddiant ar gyfer ysgolion.
Ymunodd yr Athro Renold a'r Ysgrifennydd Addysg ddysgwyr yn Ysgol Gymraeg Casnewydd ac Ysgol Bassaleg yng Nghasnewydd i weld sut maent yn gweithio ar draws y cwricwlwm i deall materion fel rhyw a chydraddoldeb a hawliau rhywiol.
Yn ôl Ceri Parry, Pennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd: “Rwy'n llwyr gefnogi’r weledigaeth newydd ar gyfer Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yng Nghymru. Mae’n rhaid inni sicrhau bod ein plant yn cael eu meithrin i groesawu amrywiaeth a goddefgarwch ar gyfer pawb, am mai nhw yw lleisiau Cymru flaengar y dyfodol.”
Yn ôl Ben Lane, Cydlynydd Llesiant yn Ysgol Bassaleg, ysgol gyfun yng Nghasnewydd: “Fel ysgol, rydym yn croesawu’r cynigion newydd ynghylch addysg perthnasoedd a rhywioldeb, a’r pwyslais ar gydberthnasau iach sy'n cyfrannu at les pobl ifanc, yn dathlu eu hunaniaeth ac yn pwysleisio eu hawl i fod yn hapus.”