What are the implications of a data-driven society?
22 Mai 2018
Yn sgîl y sgandal yn ymwneud â Cambridge Analytica, ac wrth i Ewrop baratoi i ymgodymu â deddfwriaeth warchod data newydd (GDPR), mae ymchwilwyr, eiriolwyr, ac arbenigwyr technoleg yn cwrdd ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod beth mae casglu a defnyddio data personol pobl yn ei olygu i ddemocratiaeth a chyfiawnder cymdeithasol.
Mae dros 200 o arbenigwyr rhyngwladol yn mynd i’r gynhadledd gyntaf erioed ar ‘Gyfiawnder Data’ er mwyn rhannu gwybodaeth ynghylch sut mae awdurdodau cyhoeddus a busnesau preifat yn casglu, dadansoddi, a defnyddio data dinasyddion, ac er trafod atebion i’r heriau a wynebir yn sgil ‘data-eiddio’ cymdeithas.
“Mae camddefnyddio data er mwyn dylanwadu ar etholiadau, ond hefyd cynyddu cymhwysedd dadansoddeg ddata a gwneud penderfyniadau drwy algorithmau yn y sector cyhoeddus, yn dangos bod y defnydd a wneir o ddata a rheolaeth drosti wedi dod yn fater allweddol yn ein hoes”, dywedodd Dr Arne Hintz, un o drefnwyr y gynhadledd ac un o gyd-gyfarwyddwyr Lab Cyfiawnder Data Prifysgol Caerdydd sy’n cynnal y digwyddiad.
“Fel dinasyddion digidol, rydym yn cael ein portreadu a’n categoreiddio’n gynyddol yn ôl y data a gynhyrchwn, ac mae hyn yn cael effaith enfawr ar ein bywydau yn y dyfodol. Cafwyd nifer o achosion o wahaniaethu ac asesiadau anghyfiawn drwy ddata, ac mae’n rhaid inni gael gwell dealltwriaeth o’r goblygiadau i’r gymdeithas”, ychwanegodd Dr Lina Dencik, cyd-drefnydd y gynhadledd a chyd-gyfarwyddwr y Lab Cyfiawnder Data.
Mae’r gynhadledd wedi denu sylw rhyngwladol, gan godi niferoedd y cyfranogwyr yn uwch o lawer nag oedd y trefnwyr yn disgwyl, gyda rhai’n dod o ben arall y byd, gan gynnwys UDA, India, Awstralia, a De Affrica.
Am ddeuddydd, mae ysgolheigion yn cyflwyno ymchwil i ddadansoddi data mewn dinasoedd, ar ffiniau, gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol, a sefydliadau cyhoeddus. Mae sawl gweithdy ymarferol sy’n cyfleu sgiliau dadansoddi data ac yn trafod strategaethau ymgyrchu; bydd ‘hacathon polisi’ yn datblygu cynigion polisi ar gyfer platfformau rhyngrwyd.
Cynhelir y gynhadledd yn ystod wythnos pryd bydd ddeddfwriaeth warchod data newydd yn dod i rym ledled yr Undeb Ewropeaidd. Bydd Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR), a fydd yn gyfraith ar 25 Mai, yn newid yr hyn gall platfformau rhyngrwyd a llywodraethau ei wneud gyda data dinasyddion.
Mae’r Lab Cyfiawnder Data yn ganolfan ymchwil newydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. “Mae’r Lab yn ofod unigryw yn y DU ac Ewrop”, dywedodd cyd-gyfarwyddwr a chyd-drefnydd y gynhadledd Joanna Redden. “Mae’n dod ag arbenigedd ac adnoddau ynghyd i wella ein dealltwriaeth o gyflwr democratiaeth a chyfiawnder cymdeithasol mewn cyfnod o anniddigrwydd.”
Lansiwyd y Lab Cyfiawnder Data ym Mawrth 2017 ac mae wedi tyfu’n gyflym iawn yn ei flwyddyn gyntaf. Mae wedi denu arian ymchwil sylweddol gan sefydliadau ariannu rhyngwladol, ac ar hyn o bryd mae ganddo wyth academydd yn ymchwilio i sut mae cwmnïau ac awdurdodau cyhoeddus yn dadansoddi ein data, gan ddatblygu atebion ar gyfer y modd y dylid ei reoleiddio.