Arbenigwyr o’r Brifysgol ymhlith siaradwyr Gŵyl y Gelli
21 Mai 2018
Bydd gwerth dysgu ieithoedd ym Mhrydain yng nghyd-destun Brexit yn cael sylw yn rhan o Gyfres Caerdydd y Brifysgol yng Ngŵyl y Gelli eleni.
Bydd yr Athro Claire Gorrara yn cadeirio trafodaeth banel fydd yn ystyried a allai siarad Saesneg yn unig rwystro ymdrechion Prydain i greu byd newydd ysblennydd o fasnach a busnes.
Mae sgyrsiau Cyfres Caerdydd hefyd yn cynnwys twf “poblyddiaeth ddig” yn oes Trump, dysgu gwersi o’r ymosodiadau terfysgol diweddar ar y DU, deall y clefyd genetig, clefyd Huntingdon, a thrin a thrafod grym mellt.
Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd hefyd ynghlwm wrth drafodaethau a sgyrsiau eraill yn yr Ŵyl, o fenywod o Gymru ym mywyd cyhoeddus, i bŵer y Cymry Alltud, i lansio casgliad dwyieithog newydd o farddoniaeth.
Cynhelir Gŵyl Lenyddol y Gelli eleni rhwng 24 Mai a 3 Mehefin 2018 yn nhre y Gelli Gandryll ym Mhowys.
Yn ôl yr Athro Gorrara, o Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol, mae llawer o wleidyddion a sylwebwyr yn credu bod siarad Saesneg yn unig yn ddigon i Brydain ym myd masnachol ôl-Brexit.
“Mae'r dystiolaeth yn cyfeirio at bŵer gwybyddol, diwylliannol ac economaidd dysgu iaith ym Mhrydain. Mae Prydain eisoes yn amlieithog, ac mae hynny’n wir ar bob adeg – pam na allwn weld a chydnabod hynny?” meddai.
Bydd y panel yn ystyried cwestiynau megis: Beth yw manteision diwylliannol a gwleidyddol dysgu iaith ar gyfer ‘pŵer meddal’ Prydain? Sut allai mwy o bwyslais ar ddysgu ieithoedd gefnogi dyheadau economaidd Prydain yng nghyd-destun Brexit?”
Cynhelir Pam Trafferthu Astudio Ieithoedd Modern – Mae Pawb yn Siarad Saesneg ddydd Gwener, 25 Mai am 14:30.
Bu’r Athro Martin Innes, o Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol, yn astudio adweithiau i ymosodiadau terfysgol, yn enwedig yng nghyd-destun y pedwar ymosodiad mawr ar dir y DU yn 2017.
Bydd yn ystyried yr hyn y gellir ei ddysgu amdanom ein hunain, am gymdeithas a’r tramgwyddwyr mewn sgwrs o’r enw Terfysgaeth – Cyfle i Ddysgu Gwersi ddydd Mercher, 30 Mai am 14:30.
Gellir gweld y cynnydd ym mhoblogrwydd Donald Trump yn rhan o dueddiad ehangach o “boblyddiaeth ddig” lle mae pleidleiswyr y DU wedi cefnogi Brexit a llwyddiant pleidiau poblyddol ar draws Ewrop.
Bydd yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Cyfarwyddwr Datblygu Ymchwil a’r Amgylchedd yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, yn ystyried y newid hwn yn y modd rydym yn siarad am ein emosiynau, a sut y maent yn ein rheoli.
“Mae Trump yn herio ein dealltwriaeth gonfensiynol o arlywyddiaeth fel rôl a nodweddir gan reswm a phrofiad.” meddai.
“Yn hytrach, mae wedi hebrwng oes o boblyddiaeth ddig, lle mae bywyd gwleidyddol erbyn hyn yn cael ei ddehongli a’i lywio’n gynyddol gan safbwyntiau dig Trump, ei gefnogwyr a’i wrthwynebwyr.
“Mae hyn yn amlygu gwleidyddiaeth emosiynol a negyddol ein hoes a’i goblygiadau arwyddocaol i gywair y drafodaeth gyhoeddus.”
Cynhelir Gwleidyddiaeth Emosiynol Donald Trump a’r Cynnydd mewn Poblyddiaeth Ddig ddydd Gwener 1 Mehefin am 17:30.
Bydd Dr Emma Yhnell, o’r Ysgol Meddygaeth, yn siarad am ei gwaith ymchwil ynghylch hyfforddiant ymennydd ar gyfer pobl sy’n dioddef o’r anhwylder genetig prin, clefyd Huntington.
Yn ôl Dr Yhnell, roedd yn hanfodol i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r clefyd niwro-ddirywiol “dinistriol”.
Cynhelir ei sgwrs, Clefyd Huntington, ddydd Iau 31 Mai am 10:00.
Mae sgwrs Dr Daniel Mitchard ynghylch mellt yn mynd i gynnig cryn gyffro gydag arddangosiadau byw a delweddau o gadw-mi-gei yn ffrwydro i edrych mlaen amdanynt.
Bydd Dr Mitchard yn cynnig trosolwg o ymchwil i fellt, o gynhyrchu bolltau pwerus o fellt yn yr unig labordy mellt mewn prifysgol yn Ewrop, i rôl y deunyddiau newydd wrth warchod awyrennau masnachol rhag cael eu taro’n uniongyrchol.
Cynhelir Fi a’m Peiriant Mellt ddydd Mawrth 29 Mai am 19:00.
Mae arbenigwyr Prifysgol Caerdydd hefyd yn cyfrannu at ddigwyddiadau eraill yn y Gelli, gan gynnwys yr Athro Laura McAllister o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, sy'n cymryd rhan mewn dadl Sefydliad Materion Cymreig, Menywod Cymru a Bywyd Cyhoeddus, a gynhelir ddydd Iau 29 Mai am 17:30.
Bydd Dr Rachel Minto, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru y Brifysgol, yn ymuno â phanelwyr i drafod potensial digyffwrdd y Cymry alltud, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit (dydd Iau 31 Mai am 16:00), a'r Athro Damian Walford Davies, yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, yn cadeirio lansiad casgliad dwyieithog newydd o farddoniaeth gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn (dydd Mercher 30 Mai am 19:00).