Sefydliad Confucius yn croesawu ymweliad gweinidogol gan Lysgenhadaeth Tsieina
21 Mai 2018
Ym mis Ebrill eleni, croesawodd Sefydliad Confucius Caerdydd ymweliad gweinidogol o Lysgenhadaeth Tsieina yn Llundain.
Ar 18 Ebrill, ymwelodd Mr Wang Yongli, Cwnselwr Weinidog dros Addysg Llysgenhadaeth Tsieina yn Llundain, a'i ysgrifennydd Mr Li Xiaopeng, â Chaerdydd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r Brifysgol a dysgu mwy am waith y Sefydliad.
Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn rhan o'r Ysgol Ieithoedd Modern ac mae'n hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieina yng Nghymru.
Diben yr ymweliad gweinidogol oedd datblygu gwell dealltwriaeth o'r Brifysgol a sefydlu perthynas gyfeillgar, gydweithredol rhwng y Llysgenhadaeth a'r Brifysgol. Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r Gweinidog ag uwch staff ym Mhrifysgol Caerdydd gan gynnwys y Llywydd a'r Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan, y Dirprwy Is-Gangellorion yr Athro Nora de Leeuw a'r Athro George Boyne, a Deon Tsieina, yr Athro Wenguo Jiang. Hefyd treuliodd amser gyda'r Swyddfa Ryngwladol a gydag uwch staff o Ysgol Busnes Caerdydd, sydd â'r gyfran uchaf o gofrestriadau myfyrwyr Tsieineaidd ar draws yr holl ysgolion academaidd.
Wrth ymweld â Sefydliad Confucius, roedd Mr Wang Yongli yn awyddus i longyfarch staff ar 10fed pen-blwydd y Sefydliad, a ddathlwyd ym mis Tachwedd 2017. Roedd hefyd yn awyddus i ddysgu mwy am waith y Sefydliad yn cyflwyno addysg iaith Tsieinëeg i amrywiol randdeiliaid ar draws Cymru, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, myfyrwyr prifysgol a dysgwyr oedolion.
Dywedodd Christine Cox, Rheolwr Cyffredinol Sefydliad Confucius Caerdydd "Mae'n galonogol fod Llysgenhadaeth Tsieina yn cymryd diddordeb gwirioneddol yng ngwaith y Sefydliad. Rydym ni'n falch iawn o'r gwaith a wnawn yn darparu addysg iaith Tsieinëeg ac yn gobeithio, gyda chefnogaeth y Llysgenhadaeth, y gallwn barhau i'n sefydlu ein hunain yn brif alluogwr i Brifysgol Caerdydd a'r sector addysg orfodol yng Nghymru i ddatblygu darpariaeth iaith a diwylliant Tsieineaidd."
Yn ogystal â chyfarfod â staff o'r Brifysgol a Sefydliad Confucius, treuliodd y Gweinidog hefyd amser yn cyfarfod â myfyrwyr o Tsieina sydd ar hyn o bryd yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn gyfle i'r Llysgenhadaeth ddeall anghenion gwladolion Tsieineaidd sy'n byw ac yn astudio yng Nghymru ac estyn cefnogaeth y Llysgenhadaeth iddynt.